Join us

Amdanom

Fe’n sefydlwyd yn 2015 er mwyn hyrwyddo a diogelu nodweddion arbennig tirwedd Ahne o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Ein nod yw gwneud gwahaniaeth fel a ganlyn:

  • Hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau fydd yn galluogi’r cyhoedd i fwynhau a dysgu am dreftadaeth arbennig Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
  • Trefnu cyfleoedd gwirfoddoli er mwyn ysgogi pobl i helpu i ddiogelu’r dirwedd arbennig hon.
  • Datblygu prosiectau penodol er mwyn diogelu a gwella’r dirwedd.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Thîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Ein partneriaid yn y Gymuned.

Os mai sefydliad di-elw sy’n rhannu ein cariad ni at AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ydych chi, efallai yr hoffech ymuno â ni fel Partner Cymunedol?

Am ffi flynyddol o £25, byddwch yn:

  • cefnogi gwaith gwerthfawr Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
  • cael eich rhestru ar wefan y Cyfeillion
  • derbyn copïau electronig o’n cylchlythyr chwarterol
  • gallu defnyddio’n logo ar eich deunyddiau hyrwyddo

Diogelu Data

Aelodau yn cofrestru i gadarnhau eu bod yn cytuno â’n hysbysiad preifatrwydd, sydd yn nodi sut y byddwn ni’n storio ac yn diogelu gwybodaeth bersonol. SYLWCH, bu’n rhaid i ni ei ddiwygio i ddweud:

Os byddwch chi’n rhoi gorau i’ch aelodaeth, dim ond pan fo angen i ni wneud hynny y byddwn ni’n cadw eich manylion (e.e. gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi). Os bydd eich aelodaeth yn dod i ben neu os na fyddwch chi’n ei adnewyddu, byddwn yn trin eich manylion personol yn yr un modd.