Friends - where we are

Ein Lleoliad

Jubilee Tower, Moel Famau

Tirwedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, lle mae’r grug yn ymestyn ar hyd y bryniau at wyrddni’r dyffrynnoedd a’r afonydd islaw, yw un o dirweddau harddaf y DU.

Lleolir AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae 80% ohoni yn Sir Ddinbych, 10% yn Sir Fflint a 10% yn Sir Wrecsam. Tirwedd sydd wedi’i siapio gan ddyn drwy’r oesoedd ydi hi, – o fryngaerau ysblennydd o’r Oes Haearn, tirnodau eiconig Moel Famau a’r Tŵr Jiwbilî, Castell Dinas Bran, Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a’r gamlas, i Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA) sgarpiau calchfaen Creigiau Eglwyseg.

Nodweddir tirwedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gan fynyddoedd wedi eu gorchuddio â grug porffor yn ymestyn i lawr at ddyffrynnoedd o borfeydd gleision. Mae’n dirwedd fwyn a chroesawgar, llai garw na mynyddoedd Eryri, ond yr un mor brydferth ac annwyl.


Y Dirwedd

Dinbren Isaf
Dinbren Isaf

O’r llethrau uwchben Prestatyn yn y gogledd, mae’r ardal yn ymestyn gryn 40 o filltiroedd i’r de hyd at fynydd anghysbell y Berwyn, gan gwmpasu Bryniau Clwyd, Esclusham, Eglwyseg, Riwabon a Mynydd Llantysilio. Ac yn y rhan deheuol, o’r Waun yn y dwyrain i Gorwen sydd 20 milltir i’r gorllewin.

Mae’r mynyddoedd hyn yn adrodd stori newid hinsawdd ac amgylchedd, moroedd dyfnion hynafol yn datblygu’n foroedd trofannol bas, grymoedd daearol a rhew. Yn ystod y Cyfnod Silwraidd, 420 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru yn hemisffer y De. Llaid, silt a thywod a adawyd ar waelod môr dwfn o’r enw Basn Cymru oedd y cerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini sydd bellach yn ffurfio Bryniau Clwyd a Mynyddoedd Llantysilio. Rhyw 100 miliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach (yn ystod y Carbonifferaidd Isaf, sef 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl), roedd Cymru wedi symud tua’r gogledd, – ychydig i’r de o’r cyhydedd, – ac wedi ei gorchuddio gan fôr trofannol bas, llawn bywyd, a gadawyd adneuon calchfaen cyfoethog ar ei ôl. A heddiw yn Eglwyseg, Loggerheads a Bryn Alyn gwelir dirffurfiau daearegol ysblennydd tirwedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sef y sgarpiau calchfaen sy’n cynnal cymuned arbennig o blanhigion ac anifeiliaid prin. Yn ddiweddarach, ail-ffurfiwyd y dirwedd yn llwyr gan rew, gan adael creigiau anghyson (cerrig mawr) a gafodd eu cario gan y rhew o’r Arenig ger y Bala i Benycloddiau.


Y Bobl

Moel Arthur
Moel Arthur

Mae’r ardal hon wedi ysbrydoli pobl ar hyd y canrifoedd. Yn Ogofau Ffynnon Beuno ger Tremeirchion y nodwyd y dystiolaeth gynharaf o bresenoldeb dynion yma, pan ddarganfuwyd celfi wedi eu gwneud o garreg oedd yn dyddio o bron i 30,000 o flynyddoedd yn ôl (neu 40,000 yn ôl llyfr Ian Brown). Diogelodd ogofau Bryniau Clwyd gyfrinach yr amseroedd hynod o wahanol yma, a darganfuwyd ynddynt esgyrn yr udflaidd, y mamoth a’r lyncs, sef mamaliaid a arferai grwydro unwaith ar hyd y dirwedd hon.

Un o’r nodweddion mwyaf ysblennydd a’r hynaf a wnaethpwyd gan ddyn yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw Carnedd Gop ger Trelawnyd. Dyma’r domen artiffisial fwyaf yng Nghymru, a’r ail fwyaf ym Mhrydain ar ôl Silbury Hill. Mae’n hynod dros ben. Mae’r gadwyn ysblennydd o Fryngaerau o Oes yr Haearn ar ben y bryniau hefyd yn ein hysbrydoli, ac yn dyst i waith caled a soffistigedig y llwythau Celtaidd. Yn wir, yn yr ardal hon y mae’r nifer mwyaf o Fryngaerau o’r Oes Haearn yn Ewrop, gan gynnwys rhai o’r mwyaf a’r enwocaf yng Nghymru, ac mae’n werth mynd i weld pob un ohonynt.

Byddai’r olion a welwn heddiw yng Nghaer Drewyn, Moel y Gaer (Llantysilio), Moel Fenlli, Moel Arthur, Moel y Gaer (Llanbedr) a Phenycloddiau wedi taflu cysgod anferthol dros y dirwedd pan gawsant eu hadeiladu tua 2,500 mlynedd yn ôl. Strwythurau amgaeëdig yw’r bryngaerau, a hwy yw’r aneddfeydd cynharaf a welir yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’n dirwedd i dywysogion a chestyll hefyd. Roedd Tywysog Cymru, Owain Glyndŵr yn hanu o’r ardal o gwmpas Glyndyfrdwy, ac yma gellir gweld olion Mwnt Owain Glyndŵr hyd heddiw. Arwr Cymreig a arweiniodd wrthryfel yn erbyn y Saeson yw Glyndŵr. Mae diwylliant Cymru’n dal yn bwysig iawn yn yr ardal, ac mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad o fewn cymunedau lleol. Ac mae enwau lleoedd megis Croes yr Esgob a Llwybr y Fuwch yn adrodd rhan o hanes y dirwedd.

Tywysog Cymreig yn ei hanfod oedd Owain Glyndŵr, ond cafodd Castell y Waun ei adeiladu ar dir a roddwyd i Roger Mortimer gan Edward I fel gwobr am ei ran yn gorchfygu’r Tywysog Cymreig Llewelyn ap Gruffudd ym 1282. Yn ddiweddarach, newidiodd teyrngarwch Roger Mortimer, ac fel carcharor yn Nhŵr Llundain y daeth ei oes i ben. Heddiw, rydym yn gallu ymweld â’r castell canoloesol mawreddog hwn oherwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac maent hyd yn oed yn rhoi cyfle i ni gyfarfod â marchogion o’r Oesoedd Canol.

Ymhellach ar hyd y dyffryn uwchben tref Llangollen, gwelir castell canoloesol arall. Castell Cymreig a adeiladwyd gan Gruffydd ap Madog ym 1260 yw Castell Dinas Bran. Gellir gweld golygfeydd ysblennydd o Ddyffryn Dyfrdwy a Chreigiau Eglwyseg oddi yma. Mae adfeilion y castell, a bortreadir yn nhirluniau’r arlunwyr Turner a Richard Wilson, yn dirnod gwerthfawr.

Rydym yn cael ein synnu gan gampau mwy diweddar dyn hefyd. Ym 1875, gosodwyd carreg gyntaf Traphont anhygoel Pontcysyllte gan Thomas Telford, – camp o beirianneg a gafodd statws nodedig Treftadaeth y Byd yn 2009.

 

Cynefinoedd

Woodland path
Llwybr mewn coedwig

Heddiw mae ucheldiroedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n cynnal cynefin rhostir grug prin sy’n gartref i rywogaethau fel y rugiar ddu, y rugiar goch a’r gwenyn mynydd. Mae coetiroedd llydanddail ar dir is yn darparu cynefin gwahanol ac yn gartref i rywogaethau fel y pathew. Ac mae coridorau afonydd Dyfrdwy ac Alyn hefyd yn cynnal cymuned arbennig o blanhigion ac anifeiliaid. Gwelir rhywogaethau gwerthfawr eraill megis cregyn gleision dŵr ffres, eog yr Iwerydd a’r dyfrgi hefyd yn yr Afon Ddyfrdwy.

Mae cyrchfannau poblogaidd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, fel Loggerheads, Moel Famau, Tŵr y Jiwbilî, Llangollen a Bwlch yr Oernant, wedi denu pobl drwy’r oesoedd. Rhed llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa trwy’r ardal, o’r Waun i Ddyffryn Dyfrdwy, ac o Fryniau Clwyd i Brestatyn, – rhan ysblennydd o’r Llwybr Cenedlaethol 177 milltir o hyd sy’n dilyn y Gororau o Gas-gwent i Brestatyn.

Mae pobl yn dal i ddod i fwynhau’r tirweddau hynod yma hyd heddiw. Fodd bynnag, nid tirwedd digyfnewid mohoni, gan fod pobl yn byw a gweithio yma. Mae ffermio’n ddiwydiant pwysig i’r ardal: i raddau, dyma sydd wedi’i llunio, ac mae parhad y rheolaeth yma gan amaethyddiaeth yn hanfodol ar gyfer ei dyfodol.

Nid oes amheuaeth nad yw tirwedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n un arbennig dros ben. Dewch i ddarganfod y dirwedd hon a diogelu ei natur unigryw gyda Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy