Dewch i ddarganfod y dirwedd hyfryd hon am gyn lleied â £10 y flwyddyn.
Fel aelod unigol neu aelod ar y cyd/teulu, byddwch yn derbyn:
- rhaglen ddigwyddiadau, yn cynnwys teithiau, sgyrsiau a gweithgareddau gwirfoddoli
- gwybodaeth am weithgareddau eraill fydd yn digwydd ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
- e-gylchlythyrau chwarterol am ddim
- gostyngiadau gan fusnesau lleol dethol
Bydd aelodau newydd yn derbyn pecyn croeso.
Bydd Partneriaid Cymunedol yn:
- cefnogi gwaith gwerthfawr Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
- cael eu henw wedi’i gynnwys ar wefan y Cyfeillion
- derbyn copïau electronig o’n cylchgrawn chwarterol i’w anfon ymlaen at eu haelodau
- gallu defnyddio ein logo ni ar eu deunyddiau hyrwyddo
- derbyn hysbysiad o bob un o’n digwyddiadau, a bydd croeso i’w haelodau eu mynychu.
Math o aelodaeth a thanysgrifiadau:
Cost flynyddol | Unigolyn | Ar y cyd/Teulu | Partner Cymunedol*** |
Taliad unigol* | £12 | £18 | £30 |
Talu sawl gwaith** | £10 | £15 | £25 |
* Y dyddiad adnewyddu ar gyfer y sawl sy’n gwneud taliad unigol yw Ebrill 1af. Bydd y taliad cyntaf ar gyfer aelodau newydd sy’n talu’r ffordd yma’n cael ei leihau pro-rata, gan ddibynnu ar y dyddiad ymuno.
** Ar gyfer aelodau sy’n talu’r ffordd yma (e.e. Debyd Uniongyrchol), bydd aelodaeth yn parhau am 12 mis o’r dyddiad talu.
*** Adweinir sefydliadau di-elw sy’n rhannu ein cariad ni at AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel Partneriaid Cymunedol.