By Ron Williams, Ramblers Area Footpath Secretary
Walking in the Countryside is an enjoyable activity. This can be solo, with a friend or partner or as part of a walking group. In North Wales we live in one of the best walking areas in the UK. The paths are usually in at reasonably good condition and easy to follow.
Today the majority of complaints that we get from members and the general public concern overgrown paths and stiles and missing steps. Totally obstructed rights of way are very rare. It was not always like this!
The reason we have by and large a good network of footpaths across North Wales is largely due to Ramblers Volunteers. Over the last 35 years* these members have worked tirelessly to make complaints and follow them up. This together with regular meetings with the County Councillors and support from Ramblers Cymru and Ramblers Central Office have ensured there has been a steady improvement in the rights of way across the area.
Most of these active members are getting on a bit and need younger members to join them. So what is involved, In reality not a lot. The hard work has already been done. Basically all that is needed is that when you go out for a walk you report any problems you encounter. Complaints received about your “patch” need investigating. This often means just going to the problem and verifying that it needs reporting to the relevant County Council. Very often the problem can be sorted out with a pair of secateurs and a small folding saw, There will also be committee meetings – usually 2 or 3 a year. You can claim expenses for these activities.
The danger is if we become complacent there will be a steady deterioration in the path network. Thomas Jefferson said “The price of liberty is continual vigilance”, Vigilance is certainly needed for those wishing to use and protect our unique rights of way. This is illustrated by a current planning application in Flintshire. The applicant had ignored the existence of the right of way across land that is to be developed into a Camping and Chalet development. This was spotted by one of our workers and is now being diverted to the benefit of the general public and the holiday makers using the site.
If you think you can contribute and help please contact your local footpath secretary.
Gweithwyr Llwybrau Troed
Gan Ron Williams
Mae cerdded yng nghefn gwlad yn weithgaredd braf iawn. Gellwch fynd ar eich pen eich hun, gyda ffrind neu bartner, neu’n rhan o grŵp cerdded. Rydym ni yng ngogledd Cymru’n byw yn un o’r ardaloedd gorau yn y DU i gerdded. Mae’r llwybrau fel arfer mewn cyflwr gweddol dda, ac yn hawdd eu dilyn.
Heddiw, mae’r rhan fwyaf o gwynion a gawn gan y cyhoedd a’r aelodau yn ymwneud â llwybrau a chamfeydd wedi eu gorchuddio â thyfiant ac ambell ris ar goll. Mae hawliau tramwy sydd wedi eu rhwystro’n llwyr yn brin iawn. Nid oedd bob amser fel hyn!
Mae gennym rwydwaith dda ar y cyfan o lwybrau troed ledled gogledd Cymru yn bennaf oherwydd Gwirfoddolwyr y Cerddwyr. Dros y 35 mlynedd diwethaf* mae’r aelodau hyn wedi bod yn gweithio’n ddiflino yn gwneud cwynion ac yn olrhain cwynion. Mae hyn, ynghyd â chyfarfodydd rheolaidd gyda’r Cynghorwyr Sir a chefnogaeth gan Gerddwyr Cymru a Swyddfa Ganolog y Cerddwyr, wedi sicrhau bod gwelliant cyson yn yr hawliau tramwy ledled yr ardal.
Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau gweithgar hyn yn dechrau mynd i oed, ac mae angen aelodau iau i ymuno â nhw. Felly, beth mae hyn yn ei olygu? Mewn gwirionedd, dim llawer. Mae’r gwaith caled eisoes wedi ei wneud. Yn y bôn, y cyfan sydd ei angen yw rhoi gwybod am unrhyw broblemau’r ydych yn dod ar eu traws wrth fynd am dro. Mae angen ymchwilio i gwynion a dderbynnir ynglŷn â’ch “ardal” chi. Yn aml golyga hyn fynd i leoliad y broblem a chadarnhau bod angen rhoi gwybod i’r Cyngor Sir perthnasol amdani. Yn aml iawn gellir delio â’r broblem gyda siswrn tocio a llif blygadwy fechan. Cynhelir cyfarfodydd pwyllgor hefyd – 2 neu 3 y flwyddyn fel arfer. Gellwch hawlio costau ar gyfer y gweithgareddau hyn.
Mae perygl os ydym yn llaesu dwylo y bydd dirywiad cyson yn y rhwydwaith llwybrau. Dywedodd Thomas Jefferson mai pris rhyddid yw gwyliadwriaeth barhaus. Mae’r bobl hynny sy’n dymuno defnyddio ac amddiffyn ein hawliau tramwy unigryw yn sicr angen bod yn wyliadwrus. Dangosir hyn gan gais cynllunio cyfredol yn Sir y Fflint. Roedd yr ymgeisydd wedi anwybyddu hawl tramwy dros dir a oedd i gael ei ddatblygu i greu safle gwersylla a chabanau gwyliau. Sylwodd un o’n gweithwyr ar hyn, ac rŵan mae’n cael ei ddargyfeirio er budd y cyhoedd a’r ymwelwyr sy’n defnyddio’r safle.
Os ydych yn meddwl y gellwch gyfrannu a helpu, cysylltwch â’ch ysgrifennydd llwybr troed lleol.
Ron Williams
Ysgrifennydd Llwybr Troed yr Ardal