The Curlew in our National Landscape

Written by John Roberts

We’re just coming up to that time of year when the quieter upland parts of our national landscape should be blessed with the iconic sound of curlew returning to breed. Some still do but it’s an uphill struggle, with predators and some modern farming practices combining to make it very hard for the birds. Our readers will know how serious the situation is but in “Important Curlew Area (ICA)5”, the National Landscape’s Sam Kenyon is making a real difference as she leads the fight to change things on the ground.

IAC 5 covers 40,000 hectares and embraces the Rhydtalog/Llandegla area, upper Alyn Valley, Morwynion Valley and Llantisilio Hills, Glyn Ceiriog, Dee Valley and Mynydd Mynyllod, the majority of which is within our National Landscape. Under the umbrella of Curlew Connections Wales, Sam is continuing to develop the work started by Rhun Jones to reverse the tragic decline of this very special bird. Crucial to this is forming effective working relationships with those who farm the land in the area. Sam is a farmer herself and fully understands the day to day pressures of this exacting way of life. Her success in building good relationships has been so important – when I met her she had come straight from an 8 am meeting with a farmer in Llandegla!

Most of Sam’s work in the winter revolves around discussions with farmers about how best to manage their land with the curlew’s interests safeguarded but without disadvantaging their farming business. Semi-improved grassland is particularly important. It’s a huge task but last year she was in contact with over 40 farmers and 25 were able to remain closely involved through the breeding season. It’s also vital to have genuine community engagement in the project and the winter is also the time for Sam to visit schools and community hubs to spread the word and invoke memories of the curlew as a special summer extra with its wonderful bubbling call.

Also essential to the success of the project is the volunteers who need to be able to properly identify and locate the birds as the breeding season gets underway. There was a team of 12 in place last year who helped the staff team to locate 36 breeding pairs. Then there’s the special skill of actually finding a nest – no mean feat given the vast areas involved. Last year 7 nests were located and 4 of these were successfully fenced to ward off predators. Predator control, which is hired in, is another aspect of Sam’s workload. Whilst all 4 fenced nests successfully hatched, the information about whether the chicks successfully fledged is much more difficult to assess given the remote context. The cool summer, with a poor return of insects as chick food, and abundant predators added to the number of chick losses. Only three fledglings were identified from the ICA. There are statistics to indicate how many chicks need to fledge per pair to give the species chance to survive as a breeding species. Sam’s work in making a real difference but there’s still much more to do.

There’s no doubt that those living and working in IAC 5 now know all about the curlew with over 10,000 people already reached through community engagement. In the 2025 season Sam is looking for help from more farmers and to make sure that the areas peripheral to ICA 5 are also included in the search for nests. It’s vital more are found and protected and, with a year under their belts, there’s confidence that the volunteers will help with further monitoring this season. This will go hand in hand with a more assertive protection programme, with crows, foxes, and now badgers, having been monitored with camera traps. Good news is that former ranger Jonny will join the team on a full time basis – just the boost Sam needed as we begin the business end of the season. We wish Sam, her farming supporters, the volunteers and – most of all – our curlews a most successful breeding season. We’ll bring you a full report in the autumn.

Y Gylfinir yn ein Tirwedd Genedlaethol

Cyfieithiad o eiriau John Roberts

Rydym yn cyrraedd yr adeg honno o’r flwyddyn pan ddylai rhannau o ucheldir tawel ein tirwedd genedlaethol atseinio gyda sŵn eiconig y gylfinir yn dychwelyd i fridio.  Mae rhai yn parhau i wneud hynny ond mae’n mynd yn anoddach, gydag ysglyfaethwyr a rhai arferion ffermio cyfoes yn gyfuniad sy’n ei gwneud yn anodd iawn ar gyfer yr adar.  Fe fydd ein darllenwyr yn ymwybodol o ba mor ddifrifol yw’r sefyllfa ond yn “Ardal o Bwysigrwydd i’r Gylfinir (ICA) 5”, mae Sam Kenyon o’r Tirwedd Genedlaethol yn gwneud gwir wahaniaeth wrth iddi arwain y frwydr i newid pethau ar y tir.

Mae ICA 5 yn cynnwys 40,000 hectar ac yn cynnwys ardal Rhydtalog / Llandegla, rhannau uwch Dyffryn Alun, Dyffryn Morwynion a Bryniau Llandysilio, Glyn Ceiriog, Dyffryn Dyfrdwy a Mynydd Mynyllod, y mae’r mwyafrif ohonynt o fewn ein Tirwedd Genedlaethol.  O dan ambarél Cysylltu Gylfinir Cymru, mae Sam yn parhau i ddatblygu’r gwaith a ddechreuwyd gan Rhun Jones i wrthdroi dirywiad trist yr aderyn arbennig.  Mae perthnasoedd gwaith effeithiol gyda’r rhai sy’n ffermio’r tir yn yr ardal yn allweddol ar gyfer hyn.  Mae Sam yn ffermio ac yn deall pwysau y ffordd hon o fyw o ddydd i ddydd.  Mae ei llwyddiant yn meithrin perthnasoedd da wedi bod yn hollbwysig – pan gefais gyfarfod â hi roedd newydd orffen cyfarfod 8am gyda ffermwr yn Llandegla!

Mae mwyafrif o waith Sam dros y gaeaf yn cynnwys trafodaethau gyda ffermwyr o ran y ffordd orau o reoli eu tir gan ddiogelu buddion y Gylfinir ond heb greu anfantais ar gyfer eu busnes ffermio.  Mae glaswelltir wedi’i led-wella yn hynod bwysig.  Mae’n dasg enfawr ond y llynedd roedd hi mewn cysylltiad â dros 40 o ffermwyr a bu i 25 barhau i ymgysylltu’n agos drwy gydol y cyfnod bridio.  Mae hefyd yn allweddol bod ymgysylltiad cymunedol gwirioneddol gyda’r prosiect ac yn ystod y gaeaf mae Sam hefyd yn ymweld ag ysgolion a chanolfannau cymunedol i ledaenu’r gair ac ennyn atgofion o’r gylfinir fel elfen arbennig o’r haf gyda’i galwad unigryw.

Mae gwirfoddolwyr hefyd yn rhan allweddol o lwyddiant y prosiect ac mae’n rhaid iddynt allu adnabod a lleoli’r adar wrth i’r tymor bridio ddechrau.  Roedd tîm o 12 y llynedd a gynorthwyodd y tîm o staff i leoli 36 o barau bridio.  Mae angen sgiliau arbennig i ganfod nyth – nid yw’n hawdd o ystyried maint yr ardaloedd dan sylw.  Y llynedd canfuwyd 7 nyth ac fe roddwyd ffens o amgylch 4 o’r rhain i atal ysglyfaethwyr.  Mae rheolaeth ysglyfaethwyr, sy’n cael ei logi’n allanol, yn elfen arall o waith Sam.    Er bod y 4 nyth y rhoddwyd ffens o’u hamgylch wedi deor yn llwyddiannus, mae’n anoddach asesu’r wybodaeth a fu modd i’r cywion adael y nyth yn llwyddiannus oherwydd y lleoliad anghysbell.  Mae’r haf oeraidd, diffyg pryfed fel bwyd i’r cywion, a nifer yr ysglyfaethwyr  yn ychwanegu at nifer y cywion a gollwyd.   Dim ond tri o gywion bach a nodwyd o’r ICA.  Mae’r ystadegau hyn yn dangos faint o gywion sydd angen gadael y nyth fesul pâr er mwyn rhoi cyfle i’r rhywogaeth oroesi fel rhywogaeth fridio.  Mae gwaith Sam yn gwneud gwahaniaeth mawr ond mae llawer mwy i’w wneud.

Nid oes amheuaeth bod y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn ICA 5 yn awr yn ymwybodol o’r gylfinir gyda dros 10,000 o bobl wedi’u cyrraedd drwy ymgysylltiad cymunedol.  Yn nhymor 2025 mae Sam yn chwilio am gymorth gan fwy o ffermwyr ac i sicrhau bod yr ardaloedd sydd ar ymylon ICA 5 hefyd yn cael eu cynnwys wrth chwilio am nythod. Mae’n allweddol ein bod yn canfod mwy ac yn eu diogelu a, gyda blwyddyn o brofiad, mae hyder y bydd y gwirfoddolwyr yn darparu mwy o gymorth i fonitro y tymor hwn.  Fe fydd hyn hefyd yn mynd law yn llaw gyda’r rhaglen ddiogelu, gyda brain, llwynogod a moch daear yn cael eu monitro gyda thrapiau camera.  Y newyddion da yw y bydd y cyn-geidwad Jonny yn ymuno â’r tîm yn llawn amser – yr hwb yr oedd Sam ei angen wrth i ni ddechrau’r rhan hon o’r tymor.  Dymunwn dymor bridio llwyddiannus i Sam, y ffermwyr sy’n ei chefnogi, y gwirfoddolwyr, ac yn bennaf oll, ein gylfinirod.  Byddwn yn cyflwyno adroddiad llawn i chi yn yr hydref.