NRW’s Moel Llys y Coed project: Preserving landscapes and creating woodlands

Written by Gareth Davies MIC For Cynghorydd Arbenigol Tîm Cynllunio ar gyfer yr Ystad / Specialist Advisor Estate Planning

Natural Resources Wales (NRW) recently acquired land at Moel Llys y Coed for a new woodland creation project to restore and protect Welsh woodlands.

In 2023 NRW purchased land at Moel Llys y Coed as part of its woodland creation programme. This initiative replaces woodlands lost elsewhere on the Welsh Government Woodland Estate, which NRW is committed to replanting. The site will be named ‘Moel Llys y Coed’, and signs welcoming visitors will be installed shortly.

The land is located between Cilcain and Nannerch and was mainly used as ploughed and reseeded upland pasture. However, it also includes areas of environmental importance, such as regenerating heathland on the slope towards Moel Arthur and small areas of wet woodland. Working closely with our partners, our long term goal is to create a climate-resilient woodland with mixed broadleaves and Scots pine on the pasture land, which can support various future management approaches.  The broadleaves include Sweet Chestnut, Silver and Downey Birch, Hawthorn, Hazel, Aspen, Cherry, Sessile Oak, Rowan and Lime.

The area boasts a rich landscape and historical features, which we will protect and maintain. We are also consulting with the Area of Outstanding Natural Beauty (AONB) to enhance the natural, open countryside feel, which may include some continued grazing on the heathland.

The area is very popular with walkers, so we will maintain all existing trails and footpaths. Where resources allow, NRW may work with partners to enhance these trails, so the site complements the adjacent Moel Famau country park and the Clwydian Way. We may also consider developing some low-impact car parking areas on site in the future. NRW is committed working closely with relevant stakeholders as the project progresses to shape the future of this site as the woodland establishes.

Prosiect Moel Llys y Coed Cyfoeth Naturiol Cymru: Cadw tirweddau a chreu coetiroedd

Wedi’i ysgrifennu gan Gareth Davies MIC Ar gyfer Cynghorydd Arbenigol Tîm Cynllunio ar gyfer yr Ystâd / Specialist Advisor Estate Planning

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi caffael tir ym Moel Llys y Coed yn ddiweddar ar gyfer prosiect creu coetir newydd i adfer a diogelu coetiroedd Cymru.

Yn 2023, prynodd CNC dir ym Moel Llys y Coed fel rhan o’i raglen creu coetir. Mae’r fenter hon yn disodli coetiroedd sydd wedi cael eu colli mewn mannau eraill ar Ystâd Goetir Gogledd Cymru, ac mae CNC wedi ymrwymo i’w hailblannu. Bydd y safle’n cael ei alw’n ‘Moel Llys y Coed’, a bydd arwyddion yn croesawu ymwelwyr yn cael
eu gosod maes o law.

Mae’r tir wedi’i leoli rhwng Cilcain a Nannerch ac roedd yn bennaf yn cael ei ddefnyddio fel ucheldir pori wedi’i aredig a’i ailhadu. Fodd bynnag, mae hefyd yn cynnwys ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol megis adfywio rhostir ar y llethr tuag at Moel Arthur ac ardaloedd bach o goetir gwlyb. Gan weithio’n agos gyda’n partneriaid, ein nod hirdymor yw creu coetir sy’n gadarn rhag yr hinsawdd a gyda llydanddail cymysg a phinwydd yr Alban ar y tir pori, a all gefnogi
dulliau rheoli amrywiol yn y dyfodol.  Mae’r coed llydanddail yn cynnwys Coed Castan, Coed Bedw Arian neu Gyffredin, Drain Gwynion, Coed Cyll, Aethnenni, Coed Ceirios, Coed Derw Digoes, Coed Criafol a Choed Leim.

Mae’r ardal yn elwa o dirwedd gyfoethog a nodweddion hanesyddol, a byddwn yn diogelu ac yn cynnal y rhain. Rydym hefyd yn ymgynghori gyda’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) i wella’r teimlad o gefn gwlad agored, naturiol a allai gynnwys rhywfaint o bori parhaus ar y rhostir.

Mae’r ardal yn boblogaidd iawn gyda cherddwyr, felly byddwn yn cynnal yr holl lwybrau cerdded presennol. Pan fo adnoddau’n caniatáu, efallai y bydd CNC yn gweithio gyda phartneriaid i
wella’r llwybrau hyn, er mwyn i’r safle gyd-fynd â Pharc Gwledig Moel Famau a Thaith Clwyd. Efallai y byddwn hefyd yn ystyried datblygu rhai ardaloedd parcio effaith fach ar y safle yn y dyfodol. Mae CNC wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda budd-ddeiliaid perthnasol wrth i’r prosiect ddatblygu i lywio dyfodol y safle hwn fel mae’r coetir yn sefydlu.