Moel y Plâs December 2024 Update

Written by Amy Blaker, Warden Cefn Gwlad | Countryside Ranger

Nearly 18,000 native, broadleaved trees have been planted at Moel y Plâs, near Llanarmon yn Iâl this autumn & winter to create new diverse, species-rich habitats in a bid to increase carbon sequestration and biodiversity on Denbighshire County Council owned land.

In July 2019, the Council declared a Climate Change and Ecological Emergency. In response, a Climate and Ecological Change Strategy was approved in February 2021, and the Council committed to become Net Carbon Zero and more Ecologically Positive by 2030. Habitat loss and fragmentation are major threats to biodiversity, which are exacerbated by climate change by limiting species’ ability to access more favourable habitats. Woodland and hedgerow creation has been designed to improve connectivity between existing habitat as wildlife corridors.

Alongside the current site set-up and leading volunteer events, the Clwydian Range and Dee Valley National Landscape Ranger team will manage the site going forward to restore moorland, improve ffridd, create wetland habitats and maintain newly planted woodlands (including mixed native broadleaved, upland oak woodland, hedgerows, shelter belts and a wet woodland coppice).

To support the wellbeing benefits for visitors, rangers will maintain accessibility along Rights of Way including Offa’s Dyke National Trail and local footpaths which run through the site. Stiles are being upgraded to kissing gates with easy-access latches and larger boxes in line with the National Landscape objectives to make the outdoors a more inclusive and accessible space to improve community wellbeing and visitor experience. New waymarkers and fingerposts will ensure paths are easily navigable and interpretation panels will help visitors engage with and understand the value of the surrounding landscape. Boundary fencing has been replaced to ensure it is livestock-proof, ready for seasonal grazing.

Contractors and materials, wherever possible, have been sourced locally to support local businesses and reduce the project’s carbon footprint.

We’re grateful to our dedicated conservation volunteer team, a number of local residents and students from Llysfasi, Coleg Cambria who have engaged with the project to help us plant nearly 2,000 of our total trees.

Diweddariad ar Foel y Plâs 2024

Wedi’i ysgrifennu gan Amy Blaker Warden Cefn Gwlad | Countryside Ranger

Mae bron i 18,000 o goed llydanddail brodorol wedi cael eu plannu ym Moel y Plâs ger Llanarmon yn Iâl yr hydref a gaeaf hwn i greu cynefinoedd amrywiol a llawn rhywogaethau er mwyn cynyddu faint o garbon sy’n cael ei ddal a’i storio ac i wella bioamrywiaeth ar dir Cyngor Sir Ddinbych.

Ym mis Gorffennaf 2019, bu i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecoleg. Er mwyn ymateb i hynny cymeradwywyd y Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ym mis Chwefror 2021 gyda’r Cyngor yn ymrwymo i fod yn Ddi-Garbon Net ac yn Gyngor Ecolegol Cadarnhaol erbyn 2030.  Mae colli a darnio cynefinoedd yn fygythiadau mawr i fioamrywiaeth ac mae newid hinsawdd yn gwaethygu hyn drwy gyfyngu ar allu rhywogaethau i gael mynediad at gynefinoedd mwy ffafriol.  Crëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.

Ynghyd â gosodiad presennol y safle a digwyddiadau poblogaidd gan wirfoddolwyr bydd tîm Warden Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rheoli’r safle ac yn adfer rhostiroedd, gwella ffriddoedd, creu cynefinoedd o wlyptiroedd a chynnal coetiroedd sydd newydd eu plannu (yn cynnwys cymysgedd o rywogaethau llydanddail brodorol, coetir derw tir uchel, gwrychoedd, beltiau cysgodol a phrysglwyn coetir gwlyb).

Er mwyn cefnogi manteision lles i ymwelwyr bydd ceidwaid yn cynnal hygyrchedd ar hyd Hawliau Tramwy i gynorthwyo cerddwyr sy’n defnyddio Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a llwybrau troed lleol sydd yn mynd drwy’r safle.  Mae camfeydd yn cael eu huwchraddio i giatiau mochyn gyda chlicedi mynediad hawdd a bocsys mwy yn unol ag amcanion Tirwedd Genedlaethol i wneud yr awyr agored yn fwy cynhwysol a hygyrch i wella lles cymunedol a phrofiad ymwelwyr.  Bydd arwyddion newydd yn sicrhau bod llwybrau yn hawdd i’w dilyn a bydd paneli gwybodaeth yn helpu ymwelwyr i ddeall gwerth y dirwedd o’u hamgylch.  Mae ffensys ffiniol wedi cael eu hailosod er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer tymor pori da byw ar y safle.

Lle y bo’n bosibl, mae contractwyr a deunyddiau wedi cael eu canfod yn lleol i gefnogi busnesau lleol a lleihau ôl-troed carbon y prosiect.

Rydym yn ddiolchgar i’n tîm o wirfoddolwyr cadwraeth ymroddedig, nifer o breswylwyr lleol a myfyrwyr o Lysfasi, Coleg Cambria sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect i’n helpu ni blannu bron i 2,000 o goed.