July 2026
It was a great occasion in mid -June when the improved facilities at the National Landscape’s Loggerheads Country Park were officially opened. The weather was suitably sunny and warm and showed off the improvements at their very best. The works have involved the upgrading of the main visitor buildings and the creation of an external canopy with additional seating and enhanced visitor access. The project was led on site by Caroline Dawson and completed by local contractors MWT, Waterco and Park City.
Alongside the improvement work, additional funds were secured to strengthen the site’s sustainability. This has seen the installation of solar panels and sustainable drainage planters incorporating wildlife habitats. Further options for a future hydro scheme are being explored. Once complete the site expects to meet over 60% of its energy needs through self-generated renewable power. Initial work included substantial flood mitigation works, with the site’s location adjacent to the River Alun making it vulnerable after heavy rainfall. Initial indications are that the work has been effective.
Councillor Alan James welcomed guests to the opening, supported by Caroline Dawson who gave details of the work involved. There was then the chance to see at close quarters the impressive make over of the visitor centre, meeting room, toilets and, of course, the café, now being run by the Chilly Cow team. The improved outside spaces were also eye catching. The NL team based there are delighted with the makeover as our picture shows! Loggerheads has always been a hugely popular visitor attraction, with Crosville Motor Services establishing their Tea Garden there in the 1920’s. It’s great to see these latest works bringing the location right up to date with first class visitor facilities provided in a fully sustainable and environmentally supporting way.
Loggerheads wedi’u hadnewyddu
Roedd yn achlysur gwych yng nghanol mis Mehefin pan agorwyd y cyfleusterau gwell yn Parc Gwledig Loggerheads, sy’n rhan o’r Dirwedd Genedlaethol (National Landscape), yn swyddogol. Roedd y tywydd yn braf, yn gynnes ac yn heulog, gan ddangos y gwelliannau ar eu gorau. Roedd y gwaith yn cynnwys uwchraddio prif adeiladau’r ymwelwyr a chreu canopi allanol gyda seddi ychwanegol a gwell mynediad i ymwelwyr. Arweiniwyd y prosiect ar y safle gan Caroline Dawson a’i gwblhau gan y contractwyr lleol MWT, Waterco a Park City.
Yn ogystal â’r gwaith gwella, sicrhawyd cyllid ychwanegol i gryfhau cynaliadwyedd y safle. Mae hyn wedi arwain at osod paneli solar a phlanwyr draenio cynaliadwy sy’n cynnwys cynefinoedd bywyd gwyllt. Mae opsiynau pellach ar gyfer cynllun ynni dŵr yn y dyfodol yn cael eu hystyried. Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, disgwylir i’r safle ddiwallu dros 60% o’i anghenion ynni trwy bŵer adnewyddadwy a gynhyrchir ar y safle. Roedd y gwaith cychwynnol yn cynnwys gwaith sylweddol i liniaru llifogydd, gan fod lleoliad y safle wrth ymyl Afon Alun yn ei wneud yn agored i niwed ar ôl glaw trwm. Mae’r arwyddion cyntaf yn awgrymu bod y gwaith wedi bod yn effeithiol.
Croesawodd y Cynghorydd Alan James y gwesteion i’r digwyddiad agor, gyda chymorth Caroline Dawson a roddodd fanylion am y gwaith a wnaed. Yna cafwyd cyfle i weld yn agos y gwaith trawiadol o adnewyddu’r ganolfan ymwelwyr, yr ystafell gyfarfod, y toiledau ac, wrth gwrs, y caffi, sydd bellach yn cael ei redeg gan dîm Chilly Cow. Roedd y mannau awyr agored gwell hefyd yn drawiadol. Mae tîm y Dirwedd Genedlaethol sy’n gweithio yno wrth eu bodd gyda’r gwaith adnewyddu, fel y mae ein llun yn ei ddangos! Mae Loggerheads wastad wedi bod yn atyniad poblogaidd iawn i ymwelwyr, gyda Crosville Motor Services yn sefydlu eu Gardd De yno yn y 1920au. Mae’n wych gweld y gwaith diweddaraf hwn yn dod â’r safle’n gyfoes, gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf i ymwelwyr sy’n cael eu darparu mewn ffordd gwbl gynaliadwy ac sy’n cefnogi’r amgylchedd.