A Clwydian calling…

Written by Cassa Townsend

I have been visiting this area of North East Wales for as long as I can remember, and beyond. While growing up in Derbyshire, we spent many weekends and much of our school holiday time over here in Denbighshire.

My Mum tells of bringing me as a tiny baby in a basket, and how she wouldn’t put the basket on the floor, for fear that the mice who inhabited our Welsh cottage more often than we did, would scuttle in and nibble my nose! More on this house later..

Our home was the Hope Valley, so an easy drive to cover the 85 miles or so – through the Peak District, crossing the east-west watershed of the Pennine hills, heading west for Welsh climes – was our favourite thing to do.

I never really thought much to compare and contrast ‘my’ valley with the other valley in which I spent much childhood time – the Dyffryn Dyfrdwy. The two valleys are similar in many ways – flanked in places by lowland hills easily accessible to walkers; in other directions, sprawling mountain-moorland, tougher to reach and stretching as far as the eye can see – with the blazing heather purples of summer and bright orange-and-brown hues of autumn.

Back home, we had the Derwent River flowing from the high moorlands of Bleaklow and Howden, trickling then flowing South through Derbyshire. But my strongest ‘river memories’ are from skimming stones in the quiet stretches of the Dee beyond Corwen, or watching the kayakers defy the rocks and rapids at Chainbridge and Llangollen.

Our family connection to the area goes back beyond living memory, and we are learning more about that all the time. We do know that our Great-Great-Grandmother was a Davies, who lived at Tan y Ffordd, Cynwyd. We know she met our Great-Great-Grandfather (a Liverpool-born Jones with roots in Newtown and Llanidloes) when he was Headmaster of Ysgol Pennal, near Machynlleth, at the young age of 20 – having graduated from Bangor Normal College, a teacher-training institute that was open from 1858 and eventually became part of Bangor University. They returned to marry at the Welsh Presbyterian Church on Chatham Street in Liverpool in 1876, and our family line continues from there.

In 1961 our Grandma, Hilda Myfanwy Townsend (née Jones) purchased Hafod yr Afr, a farmhouse nestling in the foothills of the Berwyns (and just up the hill from Tan-y-Ffordd.) My Dad and four brothers inherited the house, and we, the next generation, are now pressing on in earnest with her sympathetic restoration. She is an old lady and needs delicate care and attention to maintain her historic character, and to make her presentable and welcoming for the generations to come.

In 2022/3 I helped the CPRW Clwyd branch with some fundraising for development and outreach projects. At the time I was working for their sister organisation, CPRE, and their Peak District & South Yorkshire branch. It was interesting to learn more about how the Welsh branches were organising to protect so many beautiful landscapes, and working to increase the support and engagement of the wider public in this cause. With the exciting potential of a new National Park on the horizon, I shall be watching closely!

I have enjoyed discovering more of the surrounding landscape on foot, beyond the familiar locality I first knew around Hafod yr Afr – experiencing the Bannau (walking Yr Wyddfa for the first time in 2023) and the Bryniau (having now signed up for the Llangollen Round Walk challenge in 2025!)

If you’ll have me, I’ll come back to report on how all these projects are progressing, and share some reflections and writings, about my family’s love of this area, from past to present, and future.

 

Cassa Townsend – part-time CRDV resident

Clwyd yn galw …. cyfieithiad o eiriau Cassa Townsend

Rwyf wedi bod yn ymweld â’r ardal hon o Ogledd Ddwyrain Cymru ers cyn cof.  Cefais fy magu yn Swydd Derby, ac roeddwn yn treulio sawl penwythnos a gwyliau ysgol yma yn Sir Ddinbych.

Mae Mam yn sôn am ddod â mi yma fel baban bach mewn basged, ac nad oedd yn fodlon rhoi fy masged ar y llawr, gan ei bod yn ofni y byddai’r llygod a oedd yn byw yn ein bwthyn Cymreig yn amlach na ni, yn dringo i mewn a chnoi fy nhrwyn!  Mwy am y tŷ yma nes ymlaen….

Ein cartref oedd Hope Valley, felly roedd teithio oddeutu 85 milltir – drwy’r Peak District, gan groesi gwahanfa ddŵr o’r dwyrain i’r gorllewin ym mryniau’r Penwynion, gan deithio i’r gorllewin at fynyddoedd Cymru, yn un o’n hoff bethau i’w wneud.

Nid oeddwn wedi ystyried cymharu a chyferbynnu ‘fy’ nyffryn gyda’r dyffryn arall lle roeddwn yn treulio llawer o’m plentyndod – Dyffryn Dyfrdwy.  Mae’r ddau ddyffryn yn debyg mewn sawl ffordd – gyda bryniau isel sy’n hygyrch i gerddwyr ar y naill ochr; ac i’r cyfeiriadau eraill, mawndiroedd mynyddig helaeth sy’n anodd eu cyrraedd ac yn ymestyn yn bell  – gyda grug piws yr haf a lliwiau oren a brown yr hydref.

Yn ôl adref, roedd gennym yr Afon Derwent yn llifo o fawndiroedd uchel Bleaklow a Howden, yn llifo i’r De trwy Swydd Derby.  Ond mae fy ‘atgofion cryfaf o afonydd’ yn deillio o daflu cerrig yn rhannau tawel yr afon Dyfrdwy y tu hwnt i Gorwen, neu’n gwylio’r rhai a oedd yn caiacio yn brwydro yn erbyn y creigiau a’r dyfroedd gwyllt yn y Bont Gadwyn a Llangollen.

Mae ein cysylltiad teuluol â’r ardal yn mynd ymhell y tu hwnt i’r cof, ac rydym yn dysgu mwy am hynny o hyd.  Rydym yn gwybod bod gan ein Hen-Hen-Nain y cyfenw Davies, ac roedd yn byw yn Nhan y Ffordd, Cynwyd.  Rydym yn gwybod ei bod wedi cwrdd â’n Hen-Hen-Daid (Jones a aned yn Lerpwl gyda gwreiddiau yn y Drenewydd a Llanidloes), pan oedd yn Bennaeth yn Ysgol Pennal, ger Machynlleth, pan oedd yn 20 oed – ar ôl graddio o’r Coleg Normal ym Mangor, sefydliad hyfforddi athrawon a oedd ar agor o 1858 ac a ddaeth yn rhan o Brifysgol Bangor yn y diwedd.  Bu iddynt ddychwelyd i briodi yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar Chatham Street yn Lerpwl ym 1876, ac mae ein llinell deuluol yn parhau o hynny.

Ym 1961 prynodd ein Nain, Hilda Myfanwy Townsend (Jones yn enedigol) Hafod yr Afr, ffermdy wrth odre mynyddoedd y Berwyn (ac ychydig i fyny’r allt o Dan-y-Ffordd).  Bu i fy Nhad a’i bedwar brawd etifeddu’r tŷ, ac rydym ni, y genhedlaeth nesaf, yn awr yn mynd ati i’w adnewyddu gan gadw’r cymeriad.  Mae’r tŷ’n hen ac angen gofal a sylw tyner i gadw’r cymeriad hanesyddol, ac i sicrhau bod y tŷ yn groesawgar a defnyddiol ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.

Yn 2022/3 bues yn helpu Cangen Clwyd o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig i godi arian ar gyfer prosiectau datblygu ac allgymorth.  Ar y pryd roeddwn yn gweithio i sefydliad cysylltiol, CPRE, yn eu cangen yn y Peak District a de Swydd Efrog.  Roedd yn ddiddorol dysgu mwy am sut yr oedd yr adrannau yng Nghymru yn mynd ati i ddiogelu cymaint o dirweddau hardd, ac yn gweithio i gynyddu’r gefnogaeth ac ymgysylltiad y cyhoedd gyda’r achos.  Gyda’r posibilrwydd cyffrous y bydd Parc Cenedlaethol newydd ar y gorwel, byddaf yn cadw golwg ar hyn!

Rwyf wedi mwynhau darganfod mwy o’r dirwedd gyfagos ar droed, y tu hwnt i’r hyn yr oeddwn yn ei adnabod o amgylch Hafod yr Afr – gan brofi’r Bannau (a dringo i gopa’r Wyddfa am y tro cyntaf yn 2023) a’r Bryniau (ac rwyf wedi cofrestru i wneud her Taith Gylchol Llangollen yn 2025!)

Os bydd gwahoddiad i mi, fe ddof yn ôl i adrodd ar gynnydd y prosiectau hyn, a rhannu myfyrdodau a nodiadau am gariad fy nheulu at yr ardal, o’r gorffennol i’r presennol, a’r dyfodol.

Cassa Townsend – preswylydd rhan amser BCDD.