Clwydian Weather

Written by Robert Moore

The hills and valleys of the Clwydian Range and Dee Valley are under the influence of the Snowdon range and themselves modify the immediately local weather. Viewers of television weather forecasts may have noticed the frequent difference between the forecast for north Wales and our local weather. The prevailing south westerly wind is forced up over Snowdonia, the warm Atlantic air is cooled and can no longer hold its moisture, so it rains. If you remember your school lessons on latent heat, you will appreciate that the air is warmed in this process. The dried air descending on the lee of the mountains may be compressed as it descends to a lower altitude, thus warming it further. The ‘Welsh Riviera’ is created by these effects – the laws of physics are responsible for the north Wales tourist trade and the popularity of seaside resorts from Prestatyn to Llandudno.

The Clwydian range is not, however, at the seaside. We can enjoy stupendous views from the highest hills but also be subject to torrential rain and winds that can knock us off our feet. ‘Every season in a day’ is always possible, even in long, settled periods of weather. I have yet to meet the hiker who has never been surprised by a change in the weather!

My small weather station in Carmel has been active since the year 2000; weather observations have been recorded every day since then. In a global context 2024 was the warmest year since 1850 – the previous highest record was in 2023. The ten warmest years recorded in the UK have all been since 2000. The Meteorological Office uses the 1990 to 2020 average for comparative purposes. At the weather station I only have a 2000 – 2020 average.

 

For the UK 2024 was the fourth warmest year since 1850. Locally the 2024 temperature was 0.5 degrees above the twenty-year average. This tallies closely with the Met Office figures for 1991 – 2020. But averages can be deceptive. The average temperature can rise not because the weather is warmer, but because it is less cold. Thus, last December’s average temperature was 0.6 degrees above December 2023, but the maximum temperature was 1.1 degrees lower, the average was raised by the minimum temperature being 7.5 degrees above the previous year.

This graph of station data shows the 20-year average for every month (the smooth red curve), the black line shows the monthly temperatures for 2024. It is immediately apparent that the early part of the year was warmer than average, as was late Spring. The Summer months, however, were below average. Further graphs showed that while maximum temperatures were close to normal, it was fluctuations in the minimum temperatures that pushed the average up from December to March and down between June and October. [The graph begins with December because December to the end of February is the winter season and autumn ends at the end of November].

I do not observe conditions in the Clwydian Range and Dee Valley, but I suspect that the named storms of 2024 and early 2025 created dangerously high winds on the hill tops. In weather terms, Capel Curig is very close, 90 mph winds were recorded there. The named storms closed roads, caused flooding, extensive power cuts and structural damage in north Wales, there were suspensions of some local authority services and widespread school closures.

The storms brought a lot of rain and the rainfall 2024 exceeded the station average (2000 – 2020) by over 50 percent.

I am sometimes asked if the weather station shows global warming. Weather station records show that the average temperature for January from 2001 to 2005 was 4.9 degrees, for 2019 to 2023 it was 5.2 degrees. For the same years the June averages were 16.1 and 17.8 degrees respectively. So, I have recorded higher January and June temperatures in the lifetime of the weather station. But my answer to the question is ‘Maybe, maybe not’. The differences are larger than those quoted in most accounts of global warming. There are many limitations on an amateur weather station with conventional instruments. Glass thermometers shrink over time and I have not had existing equipment professionally calibrated. I reckon I can read a thermometer reliably to a tenth of a degree – but can I be sure of this when reading instruments by torchlight, buffeted by the wind, with freezing cold rain both coming down my neck and splashing my glasses? Have the local trees and hedges grown to shelter the station in winter and trap the heat in summer? If the weather station was in a flat, open field at least 100 metres clear of vegetation and the instruments were calibrated every year, I might answer ‘Perhaps I can’ but add, ‘give me another twenty years’.

A monthly weather report goes to Ysgol Treffynon (formerly Holywell High School). Every quarter a report is published in the Five Villages Chronicle, these reports are accompanied by images from weather satellites received at the weather station. The records from 2000 to 2020 have been deposited in the county archives at Harwarden, bound together with the quarterly reports. The current weather can be seen at http://www.robertsmoore.co.uk/, ignore the wind data – my weather program publishes this, even though the data are only reliable from the west through north to the east. The Clwydian range modifies the weather in Deeside and the coastal plain, the north end of Halkyn mountain shelters my anemometer, rendering it useless for winds with a southerly component. This is one of the trials in running a weather station in hilly country.

Perhaps, one day, there will be a weather station in the Clwydian range and there must already be others in the Dee valley. But until a secure and unobtrusive station can be established on a hill-top we will need to rely on stations elsewhere, like the Carmel station.

 

Tywydd Clwyd

Cyfieithiad o eiriau Robert Moore

Mae bryniau a dyffrynnoedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy dan ddylanwad mynyddoedd Eryri ac maent eu hunain yn addasu’r tywydd lleol.  Efallai y bydd y rhai sy’n gwylio rhagolygon y tywydd ar y teledu wedi sylwi ar y gwahaniaeth sydd rhwng y rhagolygon ar gyfer gogledd Cymru a’n tywydd lleol ni.  Mae gwynt de-orllewinol parhaus yn cael ei wthio dros Eryri, mae aer cynnes yr Iwerydd yn cael ei oeri ac ni all ddal ei leithder mwyach, ac felly mae’n bwrw glaw.  Os ydych chi’n cofio eich gwersi yn yr ysgol am wres cudd, byddwch yn gwerthfawrogi bod yr aer yn cael ei gynhesu yn y broses hon.  Gall yr aer sych sy’n disgyn ar ochrau’r mynyddoedd gael ei gywasgu wrth iddo syrthio i uchder is, gan ei gynhesu ymhellach.  Mae ‘Rifiera Cymru’ yn cael ei greu gan yr effeithiau hyn – mae ffiseg yn gyfrifol am fasnach twristiaeth gogledd Cymru a phoblogrwydd cyrchfannau glan y môr o Brestatyn i Landudno.

Ond nid yw bryniau Clwyd ar lan y môr.  Mae modd mwynhau golygfeydd syfrdanol o’r bryniau uchaf ond gallant hefyd fod yn destun glaw trwm a gwynt sy’n gallu ein bwrw oddi ar ein traed.  Mae ‘Pob tymor mewn diwrnod’ yn bosibl, hyd yn oed yn ystod cyfnodau hir o dywydd sefydlog.  Nid wyf wedi cwrdd â cherddwr sydd heb eu synnu gan y newid yn y tywydd hyd yma!

Mae fy ngorsaf dywydd yng Ngharmel wedi bod yn weithredol ers y flwyddyn 2000; ac mae arsylwadau’r tywydd wedi’u cofnodi bob dydd ers hynny.  Yng nghyd-destun byd-eang 2024 oedd y flwyddyn gynhesaf ers 1850 – y cofnod uchaf cyn hynny oedd 2023.  Mae’r deg o flynyddoedd cynhesaf a gofnodwyd yn y DU oll wedi bod ar ôl y flwyddyn 2000.  Mae’r Swyddfa Dywydd yn defnyddio cyfartaledd 1990 i 2020 at ddibenion cymharu.  Yn yr orsaf dywydd dim ond cyfartaledd 2000-2020 sydd gennyf.

Ar gyfer y DU 2024 oedd y bedwaredd flwyddyn gynhesaf ers 1850.  Yn lleol roedd tymheredd 2024 0.5 gradd yn uwch na’r cyfartaledd ugain mlynedd.  Mae hyn yn agos at ffigyrau y Swyddfa Dywydd ar gyfer 1991-2020.  Ond mae cyfartaleddau yn gallu bod yn dwyllodrus.  Gall y tymheredd cyfartalog gynyddu nid am fod y tywydd yn gynhesach, ond am nad yw hi mor oer.  Felly, roedd cyfartaledd tymheredd mis Rhagfyr diwethaf 0.6 gradd yn uwch na mis Rhagfyr 2023, ond roedd yr uchafswm tymheredd yn 1.1 gradd yn is, cododd y cyfartaledd gan fod isafswm y tymheredd 7.5 gradd yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.

Mae graff data’r orsaf yn dangos cyfartaledd 20 mlynedd ar gyfer bob mis (y gromlin goch), mae’r llinell ddu yn dangos y tymereddau misol ar gyfer 2024.  Mae’n amlwg ar unwaith  bod rhan gyntaf y flwyddyn yn gynhesach na’r cyfartaledd, ynghyd â diwedd y Gwanwyn.  Roedd misoedd yr Haf, fodd bynnag, yn is na’r cyfartaledd.  Roedd graffiau pellach yn dangos er bod yr uchafswm o ran tymereddau’n agos at yr arferol, roedd yr amrywiadau yn yr isafswm tymereddau yn gwthio’r cyfartaledd i fyny o fis Rhagfyr i fis Mawrth ac i lawr rhwng mis Mehefin a mis Hydref.  [Mae’r graff yn dechrau gyda mis Rhagfyr oherwydd bod Rhagfyr i ddiwedd Chwefror yn nhymor y gaeaf ac mae’r hydref yn dod i ben ddiwedd mis Tachwedd].

Nid wyf yn arsylwi’r amodau ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ond rwy’n amau bod stormydd a enwyd yn 2024 a dechrau 2025 wedi arwain at wyntoedd peryglus ar y copaon.  O ran tywydd, mae Capel Curig yn agos iawn, ac fe gofnodwyd gwyntoedd o 90 mya yno.  Bu i’r stormydd a enwyd arwain at gau ffyrdd, achosi llifogydd, colli trydan ar raddfa helaeth a difrod strwythurol yng ngogledd Cymru, bu’n rhaid atal rhai o wasanaethau awdurdodau lleol a chau ysgolion mewn ardaloedd eang.

Daeth glaw trwm yn sgil y stormydd ac roedd glawiad 2024 yn uwch na chyfartaledd yr orsaf (2000-2020) o dros 50 y cant.

Weithiau gofynnir i mi a yw’r orsaf dywydd yn dangos cynhesu byd eang.  Mae cofnodion yr orsaf dywydd yn dangos bod cyfartaledd tymheredd ar gyfer mis Ionawr o 2001 i 2005 yn 4.9 gradd, ar gyfer 2019 i 2023 roedd yn 5.2 gradd.  Ar gyfer yr un blynyddoedd roedd cyfartaledd Mehefin yn 16.1 a 17.8 gradd yn y drefn honno.  Felly, rwyf wedi cofnodi tymereddau uwch ym mis Ionawr a Mehefin yng nghyfnod oes yr orsaf dywydd.  Ond fy ateb i’r cwestiwn yw ‘Efallai, efallai ddim’.  Mae’r gwahaniaethau yn fwy na’r rhai a ddyfynnir yn y mwyafrif o gofnodion o gynhesu byd-eang.  Mae sawl cyfyngiad mewn gorsaf dywydd amatur gydag offer confensiynol.  Mae thermomedr gwydr yn mynd yn llai dros amser ac nid yw’r offer presennol wedi’i galibradu’n broffesiynol.  Rwy’n credu y gallaf ddarllen y thermomedr yn gywir i ddegfed graddau tymheredd – ond ydw i’n gallu bod yn sicr o hyn wrth eu darllen yng ngolau tortsh, gyda’r gwynt yn chwipio, glaw rhynllyd yn llifo lawr fy ngwar ac yn glanio ar fy sbectol?  A yw’r coed a’r gwrychoedd lleol wedi tyfu i ddarparu lloches ar gyfer yr orsaf yn y gaeaf ac yn dal y gwres yn yr haf?  Petai’r orsaf dywydd mewn cae agored, gwastad gydag o leiaf 100m o’i hamgylch heb unrhyw lystyfiant a bod yr offer yn cael ei galibradu bob blwyddyn, efallai y gallwn ateb ‘Efallai y gallaf’ ond byddwn yn  ychwanegu ‘rhowch ugain mlynedd arall i mi’.

Anfonir adroddiad tywydd misol i Ysgol Treffynnon (Ysgol Uwchradd Treffynnon yn flaenorol).  Bob chwarter cyhoeddir adroddiad yn y Five Villages Chronicle, mae lluniau o’r lloerenni tywydd a dderbynnir yn yr orsaf dywydd yn cyd-fynd â’r adroddiadau hyn.  Mae’r cofnodion o 2000 i 2020 wedi’u cyflwyno i archifau’r sir ym Mhenarlâg,  gyda’r adroddiadau chwarterol.  Mae modd gweld y tywydd presennol yn http://www.robertsmoore.co.uk, anwybyddwch unrhyw ddata gwynt – mae fy rhaglen dywydd yn cyhoeddi hyn, er mai dim ond o’r gorllewin drwy’r gogledd i’r dwyrain y mae’r data’n ddibynadwy.  Mae bryniau Clwyd yn addasu’r tywydd yng Nglannau Dyfrdwy a’r arfordir, mae pen gogleddol mynydd Helygain yn darparu lloches ar gyfer fy anemomedr, gan olygu ei fod yn dda i ddim ar gyfer gwyntoedd gydag elfen ddeheuol.  Dyma un o heriau gorsaf dywydd mewn gwlad fryniog.

Efallai, rhyw ddiwrnod, bydd gorsaf dywydd ym mryniau Clwyd ac mae’n debyg bod rhai eraill eisoes yn Nyffryn Dyfrdwy.  Nes y gellir sefydlu gorsaf ddiogel ac anymwthiol ar un o’r copaon mae’n rhaid dibynnu ar orsafoedd mewn mannau eraill, fel gorsaf Carmel.