Cwrdd â’r Tîm – Rhiannon Bartley
Roeddwn i’n edrych ymlaen at gwrdd â Rhiannon eto, un o’r tîm o geidwaid sy’n gweithio yn Loggerheads, ac mae hi bob amser yn siriol a chroesawgar. Mae gennyf gof da o’i gweld hi unwaith yn helpu i ailosod clamp o giât ym Mwlch Pen Barras, gwaith llafurus a oedd yn gofyn am lawer o fôn braich. Dangosodd hynny mor amrywiol yw ei swyddogaethau yn y Dirwedd Genedlaethol ac mor rhadlon y mae hi wrth ei gwaith. Fe gawsom baned yn yr ardd yn Loggerheads a dyma beth fuon ni’n sôn amdano:
Y cwestiwn cyntaf arferol – ble wnes di ddechrau?
Hogan leol ydw i, wedi fy ngeni a fy magu yn ardal Wrecsam, ac ers erioed rydw i wedi mwynhau byd natur a’r fro o ’ngwmpas i. Er mod i wedi mwynhau marchogaeth ceffylau, mynd i’r geidiau, gwersylla a cherdded i fyny’r bryniau ac o gwmpas y cestyll yng ngogledd Cymru, wyddwn i ddim bod modd cael addysg am Reoli Cefn Gwlad pan adewais i’r ysgol.
Beth newidiodd?
Ychydig cyn Covid, mi fues i’n edrych ar gwrs City & Guilds mewn Rheoli Cefn Gwlad yng Ngholeg Cambria Llysfasi, ac roeddwn i wrth fy modd ar y cwrs. Mi rois i’r gorau i weithio mewn canolfan alwadau a threulio’r naw mis nesaf yn gwirfoddoli efo’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, Tŷ Pawb, Groundwork ac unrhyw sefydliad amgylcheddol arall oedd yn barod i roi gwaith imi cyn i’r cwrs ddechrau ym mis Medi.
Alla i ddim rhoi digon o ganmoliaeth i’r cwrs a’r ffordd y cafodd ei gynnal – roedd yn gwneud i’r dim imi. Roeddwn i’n hoff iawn yn enwedig o’r sylw roedden nhw’n ei roi i’r ochr ymarferol o bethau, a oedd yn hwb mawr i’r elfen academaidd o’r cwrs.
Beth ddigwyddodd nesaf?
Pan oeddwn i ar y cwrs, fe ges i wybod am gwmni cadwraeth lleol, ELM (Environmental Land Management yn Llai) a dyna lle wnes i fy mhrofiad gwaith. Roedd hynny’n gyfle imi gael profiad o reoli coedwigoedd, gwarchod ymlusgiaid, darparu mynediad i gefn gwlad ac amrywiaeth o sgiliau ymarferol sy’n ddefnyddiol imi wrth weithio yn y Dirwedd Genedlaethol.
Peth da hefyd oedd bod gwneud y cwrs a chael gwaith yn rhoi beth ydyn ni’n eu galw’n ‘docynnau’ imi – i fedru gwneud hyfforddiant i ddefnyddio gwahanol beiriannau arbenigol a chael achrediad i’w defnyddio nhw – sy’n ddefnyddiol iawn yn fy swydd i rŵan. Dyna pryd wnes i sylweddoli mai gweithio yn yr amgylchedd naturiol oedd y dyfodol i fi.
Pan gefais i fy nghymhwyster fe welais i hysbyseb am swydd ceidwad dros dro yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac fel rhywun sy’n byw mewn gobaith, mi wnes i gais amdani. Mi ges i siom ar yr ochr orau ac roeddwn wrth fy modd yn cael y swydd, a dwi’n dal yn methu coelio mor lwcus ydw i o gael fy swydd ddelfrydol.
Eglura fwy am dy swydd bresennol.
Mae o’n ychydig o bob dim a dweud y gwir, a’r amrywiaeth ydi’r peth gorau gen i. Mae gennym dîm bendigedig ac rydyn ni’n dysgu oddi wrth ein gilydd drwy’r amser gan ein bod ni’n dod o wahanol gefndiroedd ac yn dilyn gwahanol ddiddordebau. Un o fy hoff rannau o’r swydd ydi rheoli mynediad drwy gadw llwybrau’n glir, gwneud yn siŵr y gall pobl weld arwyddion a gosod camfeydd a gatiau, gan fod hynny’n gofyn am gyfuniad o sgiliau corfforol, annog pobl i fagu cysylltiad â’r dirwedd a dod o hyd i lwybrau newydd i’w troedio. Mae datblygu gwybodaeth a sgiliau’n beth parhaus ac rydw i wedi dysgu sut i werthfawrogi mor ddiddorol yw’r planhigion sy’n blodeuo yma. Dwi’n dysgu mwy amdanyn nhw bob dydd drwy gynnal arolygon planhigion a mynd am dro o gwmpas ein safleoedd.
Wedyn mae’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn partneriaeth â’r gwirfoddolwyr gwych sydd gennym ni. Mae honno’n rhan arall o’r swydd dwi’n ei mwynhau’n ofnadwy. Bu rhai ohonyn nhw wrth ers blynyddoedd bellach ac mae’n fraint cael gweithio efo nhw. Dwi’n gweithio’n agos â’r Ceidwaid Gwirfoddol a fedrwn i ddim gofyn am well criw o bobl i weithio efo nhw a dysgu ganddynt.
Os ydych chi â diddordeb mewn gwirfoddoli yn y Dirwedd Genedlaethol, neu’n adnabod rhywun arall sydd, mae croeso ichi gysylltu. Mae gennym gymaint o gyfleoedd ar ein holl safleoedd ar y Bryniau, o Langollen i Brestatyn, felly ewch ati i gael copi o’r rhaglen wirfoddoli ac ymunwch yn yr hwyl! Fy nghyfeiriad e-bost i ydi rhiannon.bartley@denbighshire.gov.uk
Dwi bob amser yn cadw mewn cof bod llawer o’n swyddi ni’n rhai dros dro a bod hynny’n creu ansicrwydd i bobl – alla i holi ynglŷn â dy statws di ar hyn o bryd?
Maen nhw wedi ymestyn fy nghontract cychwynnol i, ond dwi’n dal yn gweithio dros dro ac felly mae hynny’n creu rhywfaint o ansicrwydd. Mae’r tîm bob amser yn gweithio’n galed i gael mwy o gyllid o wahanol ffynonellau ac yn llwyddo’n amlach na pheidio. Dwi’n optimistig am y dyfodol ac yn bendant yn gweld fy hun yn dal i weithio yn y Dirwedd Genedlaethol. Gobeithio y daw digonedd o gyfleoedd, yn enwedig efo’r trafodaethau ynglŷn â’r parc cenedlaethol newydd, sy’n awgrymu y bydd mwy o bethau’n bosib. Mae gen i ddigon i’w wneud yn y cyfamser, yn rheoli’r safleoedd wrth i’r gwaith gwella ddechrau yn Loggerheads a Moel Famau.
Beth am y tu allan i’r gwaith?
Dwi’n byw yn Llangollen efo fy mhartner, Dominic, ac mae’n lle braf i fyw. Mae’r ddau ohonon ni wrth ein boddau’n gwneud gweithgareddau awyr agored – dringo, sglefrio, cerdded a phob math o bethau eraill! – ac rydyn ni wedi magu gwreiddiau yn yr ardal.
Y cwestiwn olaf arferol – beth yw dy hoff le yn ein Tirwedd Genedlaethol?
Mae’n rhaid imi ymuno â’r rhestr hir o bobl sydd wedi dewis Pen y Cloddiau. Dwi wrth fy modd yn mynd yno ac mae’n hawdd deall pam fod y lle mor boblogaidd! Mae’n rhaid imi sôn am Ben-y-pigyn yng Nghorwen hefyd, wrth gwrs!