First Curlew Chicks of the Season Hatch in the National Landscape!

June 2025

The Curlew Connections Wales team are celebrating the arrival of the first Eurasian Curlew chicks of the 2025 season within the Clwydian Range and Dee Valley National Landscape, a significant milestone for one of the UK’s most endangered bird species.

The Curlew, Europe’s largest wading bird, is easily recognised by its long, curved bill and distinctive bubbling call. Once a common sight across Welsh uplands and wet grasslands, the curlew population has dramatically declined. Numbers in Wales have dropped by over 80% since the 1990s, and the species is disappearing at a rate of 6% per year. Despite laying four eggs every year, they are only managing to raise about one chick every four years which is far too low to sustain the population.

Without urgent action, breeding curlews could be extinct from Wales entirely by 2033.

The first chicks hatched on moorland within the National Landscape, where the Curlew Connections Wales Project is working hard to protect these rare ground-nesting birds. With fantastic support from local farmers and landowners, the team has been monitoring and protecting curlew nesting sites in an area known as Important Curlew Area 5 (ICA5).

To give the nests the best chance of success, temporary electric fencing has been used to keep predators and farm animals away from the vulnerable eggs. This simple but effective measure is already making a big difference and 12 nests have been protected with fencing this year, a significant increase from 4 nests fenced last year. These early hatches are a positive sign for this iconic bird species and a hopeful step forward for curlew conservation in Wales.

“The arrival of these first chicks is very encouraging,” said Jillian Howe, Community and Engagement Officer at Curlew Connections Wales. “It shows that with community support and targeted protection, we can give curlew chicks a better chance to survive and help reverse their decline.”

If you see or hear a curlew in the project area, contact our Curlew Connections Wales Officer at: samantha.kenyon@denbighshire.gov.uk

For more information visit: www.gwct.wales/curlew-connections/

Familiarise yourself with the Curlew call here: www.curlewaction.org/wp-content/uploads/Curleee.mp3

Curlew Connections Wales is a partnership project working with farmers, landowners and local communities to safeguard the Eurasian Curlew’s place in the Welsh Landscape. This project is funded by the Nature Networks Fund and is being delivered by the Heritage Lottery Find, in partnership with Welsh Government.

Cywion Gylfinir cyntaf y tymor yn deor yn y Dirwedd Genedlaethol!

Jillian Howe
Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Mae tîm Curlew Connections Cymru yn dathlu dyfodiad cywion cyntaf y Gylfinir Ewrasiaidd yn nhymor 2025 o fewn Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, carreg filltir arwyddocaol i un o rywogaethau adar mwyaf mewn perygl yn y DU.
Mae’n hawdd adnabod y Gylfinir, sef aderyn hirgoes mwyaf Ewrop, gan ei big hir, crwm a’i alwad unigryw. Roedd y gylfinir yn arfer bod yn gyffredin yn uwchdiroedd a glaswelltiroedd gwlyb Cymru, ond mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol. Mae’r niferoedd yng Nghymru wedi gweld gostyngiad o dros 80% ers y 1990au, ac mae’r rhywogaeth yn diflannu ar gyfradd o 6% y flwyddyn. Er eu bod yn dodwy pedwar wy bob blwyddyn, dim ond tua un cyw maen nhw’n llwyddo i’w fagu bob pedair blynedd, sy’n llawer rhy isel i gynnal y boblogaeth.
Heb weithredu ar frys, gallai gylfinirod sy’n bridio ddiflannu yn gyfan gwbl yng Nghymru erbyn 2033.

Fe wnaeth y cywion cyntaf ddeor ar rostir yng ngogledd ddwyrain Cymru, lle mae’r Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru yn gweithio’n galed i amddiffyn yr adar prin hyn sy’n nythu ar y ddaear. Gyda chefnogaeth wych gan ffermwyr a thirfeddianwyr lleol, mae’r tîm wedi bod yn monitro a gwarchod safleoedd nythu’r gylfinirod mewn ardal sy’n cael ei hadnabod fel Ardal o Bwysigrwydd i’r Gylfinir (ICA5).

I roi’r cyfle gorau o lwyddiant i’r nythod, mae ffensys trydan dros dro wedi cael eu gosod i gadw ysglyfaethwyr ac anifeiliaid fferm i ffwrdd o wyau bregus. Mae’r mesur syml ond effeithiol hwn eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr ac mae 12 o nythod wedi cael eu hamddiffyn gan y ffensys eleni, sy’n gynnydd sylweddol o’r 4 nyth a amddiffynnwyd y llynedd. Mae’r cywion hyn sydd wedi deor yn gynnar yn arwydd cadarnhaol ar gyfer yr aderyn eiconig hwn ac yn gam gobeithiol ymlaen ar gyfer cadwraeth y Gylfinir yng Nghymru.

“Mae cyrhaeddiad y cywion cyntaf hyn yn galonogol iawn”, meddai Jillian Howe, Swyddog Cymunedol ac Ymgysylltu yn Cysylltu Gylfinir Cymru. “Mae’n dangos, gyda chefnogaeth y gymuned a thargedu mesurau amddiffyn, y gallwn roi gwell cyfle i gywion y gylfinir oroesi a helpu i ddad-wneud eu dirywiad.

Os ydych yn gweld neu’n clywed y gylfinir yn ardal y prosiect, cysylltwch â’n Swyddog Cysylltu Gylfinir Cymru ar: samantha.kenyon@denbighshire.gov.uk

Am ragor o wybodaeth ewch i: www.gwct.wales/curlew-connections/

Gallwch ddod i adnabod galwad y Gylfinir yma: www.curlewaction.org/wp-content/uploads/Curleee.mp3

Mae Cysylltu Gylfinir Cymru yn brosiect partneriaeth sy’n gweithio gyda ffermwyr, tirfeddianwyr a chymunedau lleol i ddiogelu lle’r Gylfinir Ewrasia yn Nhirwedd Cymru. Ariennir y prosiect hwn gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur ac fe’i cyflwynir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.