Fond Farewell

Written by John Roberts

We all know that all local authorities are under great financial pressure at the moment and this, in turn, has its effect on our precious national landscape. Apart from the support it gets from the three constituent councils, the NL team also works hard to secure additional monies to undertake specific projects and this often means an ability to recruit extra staff, albeit on a temporary basis as this is often a condition of fixed term funding.

The contribution staff on short term contracts make is vital to the NL’s ongoing commitment to protecting and enhancing the Clwydian Range and Dee Valley. Unfortunately, budgetary constraints will mean that some staff on these contracts cannot be retained, despite really pulling their weight . To put this into a specific Friends context, two rangers who have made a significant contribution to our events have left, or are leaving, for pastures new.

Llangollen based Dwynwen Williams will now practice her skills on the Great Orme – our loss is Pen Gogarth’s gain. She has been a keen supporter of Friends, helped install our seats at Wenffrwd and the old rail link to Llangollen, and we won’t forget the splendid walk she led on Bwlch y Groes – which also took in the archaeology dig above Bryneglwys. Then there’s Loggerheads based Amy Blaker who takes up a new challenge in Scotland in the new year. Amy’s knowledge and enthusiasm needs no better demonstration than the article she’s written in this issue about our autumn fungi foray. What a great outing that was.

The one thing that unites conservation staff in general is their sheer enthusiasm for the work they do. It may not be the best paid sector but the job satisfaction it gives is a huge incentive. It must be so difficult for temporary staff though, to have to cope with the uncertainty of employment duration as well as the multitude of tasks thrown at the team day to day.

As Friends, we wish Dwynwen and Amy every success in their new environments – perhaps with the prospect of a national park in the offing we may see them back with us before too long! NL Lead Office Howard Sutcliffe adds “They have both had a good taste of Countryside Management and want more. Hopefully they will have learned a lot while they’ve been here. We have all grown fond of them”

Ffarwelio…

Wedi’i ysgrifennu gan John Roberts

Rydym ni i gyd yn gwybod bod awdurdodau lleol dan bwysau ariannol mawr ar hyn o bryd ac mae hyn, yn ei dro, yn effeithio ar ein tirwedd genedlaethol werthfawr. Ar wahân i’r gefnogaeth a geir gan y tri chyngor cyfansoddol, mae’r tîm tirwedd genedlaethol hefyd yn gweithio’n galed i sicrhau arian ychwanegol i ymgymryd â phrosiectau penodol ac mae hyn yn aml yn golygu gallu i recriwtio staff ychwanegol, er bod hynny ar sail dros dro oherwydd ei fod yn aml yn amod o gyllid cyfnod penodol.

Mae’r cyfraniad y mae staff ar gontractau tymor byr yn ei wneud yn hanfodol i ymrwymiad parhaus y tîm Tirwedd Genedlaethol i ddiogelu a gwella Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Yn anffodus, bydd cyfyngiadau cyllidebol yn golygu na fydd modd cadw rhai staff ar y contractau hyn, er iddynt dynnu eu pwysau. I roi hyn yng nghyd-destun Cyfeillion yn benodol, mae dau geidwad sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’n digwyddiadau wedi gadael, neu maent yn gadael, i ddechrau rolau newydd. Bydd Dwynwen Williams sydd wedi’i lleoli yn Llangollen, yn awr yn ymarfer ei sgiliau ar Y Gogarth – mae Pen y Gogarth yn sicr yn elwa o’n colled. Mae wedi bod yn gefnogwr brwd o’r Cyfeillion, wedi helpu i osod ein seddi yn Wenffrwd a’r hen gyswllt rheilffordd i Langollen, ac ni wnawn anghofio’r gwaith bendigedig a arweiniodd arno ar Fwlch y Groes – a oedd hefyd yn cynnwys y cloddiadau archeolegol uwchben Bryneglwys. Yna, bydd Amy Blaker sydd wedi’i lleoli yn Loggerheads, yn ymgymryd â her newydd yn yr Alban yn y flwyddyn newydd. Mae gwybodaeth a brwdfrydedd Amy yn amlwg o edrych ar yr erthygl y mae wedi’i hysgrifennu ar gyfer y rhifyn hwn am ein diwrnod yn fforio am ffyngau. Am ddiwrnod bendigedig oedd hwnnw.

Un peth sy’n uno staff cadwraeth yn gyffredinol yw eu brwdfrydedd dros y gwaith maent yn ei wneud. Efallai nad yw’r sector yn cynnig y cyflog gorau ond mae’r boddhad a geir yn y swydd yn gymhelliant mawr. Er mae’n rhaid ei bod mor anodd i staff dros dro, i orfod ymdopi ag ansicrwydd hyd cyflogaeth yn ogystal â’r nifer fawr o dasgau sy’n wynebu’r tîm o ddydd i ddydd.

Fel Cyfeillion, rydym eisiau dymuno pob llwyddiant i Dwynwen ac Amy yn eu hamgylcheddau newydd – efallai gyda’r posibilrwydd o barc cenedlaethol yn y dyfodol, efallai y byddant yn ôl gyda ni cyn hir! Dywedodd Swyddog Arweiniol Tirwedd Genedlaethol, Howard Sutcliffe: “Mae’r ddwy wedi cael blas ar Reoli Cefn Gwlad ac maent eisiau mwy. Gobeithio eu bod wedi dysgu llawer iawn o’u hamser yma. Rydym i gyd wedi dod yn hoff iawn ohonynt.”