From Tree to Treen

Written by Saul Burton

January 2025 saw the removal of two beech trees from the bank above the entrance drive at Loggerheads Country Park. The trees were not good specimens and had many structural faults which created many points of probable failure. We had been keeping an eye on them for a while, but following the failure of a large limb we decided to remove them on the grounds of public safety.

The smaller branches were chipped and removed from site, but the larger limbs have been left in situ to provide valuable deadwood habitat. However, I did take a small section of log to indulge one of my passions – wood carving.

“Treen” is the term given to small domestic wooden objects such as butter knives, jam spreaders, spoons, bowls and small pots etc. The dictionary definition highlights the fact that treen items are often antiques. This probably stems from the fact that using wood to make such items was much more commonplace in the pre-plastic era.

Wooden items such as these are generally pleasingly tactile. Usually, when a person first picks up a hand-carved wooden spoon, they run it through their fingers, feeling the curves and the texture. In addition to this, the beauty of characterful wood grain and/or embellishment can make even simple items very special. Form and function combine in a manner which often appears simple, when in reality there is a lot going on even with a seemingly modest, elegant form. Treen items usually change with use over time, developing a patina or taking on staining from coffee, red wine or coloured foods such as turmeric, tomatoes or beetroot. This adds character to the items and makes them truly individual.

Modern life places ever more demands on our time and the pace of life seems to be constantly accelerating to frenetic levels. Engaging in a mindful and creative process such as woodcraft offers a fantastic antidote to this as it demands your full attention. Concentrating on one task – to the exclusion of all others helps to calm the mind. Working with a natural material such as wood demands a certain level of understanding of the properties of the material. Knowledge of how the grain flows through a piece of wood, the direction in which you need to make the cuts and how you hold the piece in order to make the cuts safely all come with experience. Things need to be done in a certain order and when using simple hand tools there’s no “quick fix”. For me it is akin to meditation and is a very relaxing and satisfying pastime.

As you delve deeper into the topic you gain more of an understanding of the physical properties of wood and the differences between tree species. The density of green wood varies greatly, which is immediately apparent when you start to carve it (and beech happens to be quite hard work!). You can explore varying shapes and profiles of spoons. Depth of bowl, handle shape and how these elements interact are all variables which have a huge impact on how the item looks, feels and performs in use.

Beech spoon on the “parent” tree.

In my line of work, I am fortunate enough to have access to plenty of wood. Trees removed during scrub clearance and coppicing regimes are all sustainably sourced and are essentially a waste product. Making beautiful and useful items out of these trees preserves part of them and pays a lasting respect to the resources they provide.

Ash spoon from ash dieback felling at Loggerheads.

 

Hazel and birch spoons with the bark left on the handles – all from coppicing or scrub clearance.

O Goed i Lestri Pren

Wedi’i ysgrifennu gan Saul Burton

Ym mis Ionawr 2025 tynnwyd dwy ffawydden o’r llechwedd uwchben y dreif mynediad ym Mharc Gwledig Loggerheads. Nid oedd y coed yn enghreifftiau da ac roedd nifer o wallau strwythurol a oedd yn creu nifer o bwyntiau gwan. Roeddem wedi bod yn cadw llygaid arnynt ers tro, ond yn dilyn methiant cangen fawr, fe benderfynom eu tynnu ar sail diogelwch y cyhoedd.

Cafodd y canghennau bach eu torri a’u tynnu o’r safle, ond mae’r canghennau mawr wedi cael eu gadael yn y fan a’r lle i ddarparu cynefin pren marw gwerthfawr. Fodd bynnag, fe gymerais ddarn bach o foncyff i ymgymryd ag un o fy niddordebau – cerfio pren.

Mae llestri pren domestig yn cynnwys gwrthrychau megis cyllyll menyn, lledaenwyr jam, llwyau, bowlenni a photiau bach ac ati. Yn aml iawn mae’r eitemau hyn allan o bren yn dod o’r hen amser. Y rheswm dros hyn yn bennaf yw bod defnyddio eitemau o’r fath yn llawer mwy cyffredin cyn oes y plastigion.

Mae eitemau pren fel y rhain yn braf i’w cyffwrdd yn gyffredinol. Fel arfer, pan fydd person yn gafael mewn llwy bren wedi’i gerfio, maent yn rhedeg eu bysedd ar ei hyd, gan deimlo’r ceinciau a’r gwead. Yn ogystal â hyn, gall harddwch graen y pren a/neu addurniadau pren wneud yr eitemau mwyaf syml yn rhai arbennig iawn. Mae ffurf a swyddogaeth yn cyfuno mewn modd sy’n ymddangos yn syml, ond mewn realiti maent yn gymhleth iawn gyda ffurf ddiymhongar, gain. Mae’r llestri pren hyn fel arfer yn newid gydag amser wrth gael eu defnyddio, gan ddatblygu sglein neu gael eu staenio gan goffi, gwin coch neu fwydydd lliw megis tyrmerig, tomatos neu fetys. Mae hyn yn ychwanegu cymeriad at yr eitemau ac yn eu gwneud yn gwbl unigryw.

Mae bywyd modern yn rhoi mwy o bwysau ar ein hamser ac mae cyflymder bywyd yn ymddangos fel ei fod yn cynyddu i lefelau uwch. Mae ymgysylltu â phroses greadigol a gofalgar megis crefft coed yn cynnig ffordd i wrthbwyso hyn, gan fod angen eich sylw llawn. Gall ganolbwyntio ar un dasg – ac eithrio holl dasgau eraill helpu i dawelu’r meddwl. Mae gweithio gyda deunydd naturiol megis pren yn gofyn am lefel benodol o ddealltwriaeth o nodweddion y deunydd. Mae gwybodaeth o sut mae’r graen yn llifo trwy ddarn o bren, y cyfeiriad i wneud y toriadau a sut i ddal y darn er mwyn gwneud y toriadau yn ddiogel, oll yn dod gyda phrofiad. Mae pethau angen cael eu gwneud mewn trefn benodol ac wrth ddefnyddio offer llaw nid oes datrysiad cyflym. I mi, mae’n rhyw fath o fyfyrdod ac mae’n ddiddordeb sy’n fy ymlacio a fy modloni.

Wrth i chi fynd yn ddyfnach i’r pwnc, byddwch yn ennill mwy o ddealltwriaeth o nodweddion ffisegol pren a’r gwahaniaethau rhwng rhywogaethau coed. Mae dwysedd y pren gwyrdd yn amrywio’n fawr, sy’n amlwg yn syth wrth i chi ddechrau cerfio (ac mae coed ffawydd yn waith caled!) Gallwch archwilio siapiau a phroffiliau gwahanol lwyau. Mae dyfnder powlen, siâp yr handlen a sut mae’r elfennau hyn yn rhyngweithio, oll yn amrywio ac yn cael effaith ar edrychiad, teimlad a pherfformiad yr eitem.

Llwy ffawydd ar y goeden.

Yn fy ngwaith, rwy’n ddigon ffodus o gael mynediad at ddigon o goed. Mae’r holl goed sy’n cael eu tynnu yn ystod arferion bôn-docio a chlirio prysgwydd yn gynaliadwy ac yn gynnyrch gwastraff yn ei hanfod. Mae creu eitemau hardd a defnyddiol allan o’r coed hyn yn cadw rhan ohonynt ac yn talu teyrnged i’r adnodd y maent yn ei ddarparu.

Llwy Onnen o waith torri coed clefyd coed ynn yn Loggerheads.

 

Llwyau cyll a bedw gyda’r rhisgl wedi’i adael ar yr handlenni – oll o waith bôn-docio neu glirio prysgwydd.