Fe aethon ni ar daith fendigedig ddiwedd mis Gorffennaf i weld Gweilch Llyn Brenig! Diolch o galon i Sophia, un o’r gwirfoddolwyr sy’n arwain y prosiect, nid yn unig am drefnu’r ymweliad ond hefyd am fod yn gyfrifol am ein tywys o gwmpas. Fe gofiwn amdani’n bod mor siriol a pharod ei chymwynas yn siop Loggerheads. Mae hi bellach wedi symud yn ei blaen, yn anffodus, ond mae’n dal yn gweithio â’r Dirwedd Genedlaethol – ein colled ni, a phrosiect y Gweilch sydd ar ei ennill. Bu ei chydweithiwr, Andy, yn ei chynorthwyo ar y diwrnod gan gyfrannu trysorfa o wybodaeth ac ateb ein holl gwestiynau â doethineb ac mewn hwyliau da.
Y newyddion da yw bod Gweilch bellach wedi ennill eu plwyf fel rhywogaeth sy’n bridio yng Nghymru – cam mawr ymlaen gan gofio ei bod mor ddiweddar â 1954 pan ddaethant yn ôl i’r Deyrnas Unedig, yn Loch Garten yn yr Alban. Mae yno bellach nythfeydd sefydlog yng Nghymru ar wahân i Lyn Brenig, sef Dyfi, Glaslyn a Chlywedog, a bu sôn yn ddiweddar am bâr yn bridio yn Nyffryn Wysg hefyd. Cynllun ar y cyd rhwng Dŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yw prosiect Llyn Brenig. Dechreuodd yr adar geisio bridio yma yn 2017 ac maent bellach wedi ymgartrefu yma. Mae’r pâr presennol yn magu dau o gywion, gwryw a benyw, a diolch i dechnoleg o’r radd flaenaf bu modd inni eu gweld nhw’n syth ar y sgrin yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Cawsom ein rhannu’n ddau o grwpiau wedyn, ac wrth i hanner ohonom aros yn y Ganolfan Ymwelwyr i gadw llygad ar sut oedd pethau’n datblygu yn y nyth, aeth y gweddill draw i’r guddfan lle gallant gael golwg nes ar yr adar. Rhoddwyd modrwyau ar y cywion yn llawer cynharach yn eu datblygiad ac felly ceir gobaith mawr y byddwn yn clywed llawer iawn mwy amdanynt yn y dyfodol. Byddant hefyd yn cael enwau Cymraeg, er bod yn well gan lawer o’r dilynwyr brwd eu galw wrth rifau eu modrwyau.
Wedyn, mi ffeiriodd y ddau grŵp. Drwy lwc, fe amseron ni’r ymweliad yn berffaith. Er na ehedodd y cywion o’r nyth pan oedden ni yno, fe fuon nhw’n curo eu hadennydd yn frwd yn y nyth wrth ymarfer i hedfan o’r nyth am y tro cyntaf, ac yn ôl pob golwg roeddent eisoes yn eu llawn dwf ac yn fwy na pharod i hedfan. Buan iawn y byddent yn hedfan yr holl ffordd i orllewin Affrica, ac yn wir fe hedodd y ddau o’r cywion o’r nyth ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach. Cafodd yr ail grŵp gyfle i weld y cywion yn sglaffio pysgodyn yr oedd eu tad wedi dod ag ef yn ôl i’r nyth.
Dysgom hefyd am rai o’r creaduriaid eraill sy’n byw yn y rhan arbennig hon o ogledd Cymru. Ceir nythfa fechan o ditwod yr helyg a chymerir gofal i fonitro a chefnogi’r adar prin yma, ac mae yma hefyd ewigod llwyd, llygod pengrwn y dŵr a ffwlbartod. Fe welodd rhywun fele’r coed yn ddiweddar, hyd yn oed. Wedi mwynhau bore difyr tu hwnt, daeth yn bryd inni fynd i’r caffi ardderchog am damaid o ginio a mwynhau’r olygfa o’r llyn. Y farn unfrydol oedd bod hwn yn ddigwyddiad gwych – diolch o galon i Sophia am drefnu ac arwain – ac i’r holl wynebau cyfeillgar eraill a welon ni yn ystod y dydd. Edrychwn ymlaen at gadw mewn cysylltiad a chael gwybod beth sy’n digwydd yno.