How The Clwydian Range Became An Area Of Outstanding Natural Beauty (AONB)

A Personal Account By Alan Rugman, Powys Ramblers

I joined the Countryside Commission Office for Wales in Newtown in 1979, having worked as a planner with the former Department of the Environment and local authorities before that. How fortunate to be living and working in the rolling green hills of mid Wales.

One of my early memories in the job is being passed two files at the Commission’s head office in Cheltenham, one labelled Clwydian Range and the other Berwyn. Shortly afterwards, the then Nature Conservancy Council (public bodies come and go) made a large portion of the Berwyn a Site of Special Scientific Interest. There was an explosive reaction from the farming unions, making it obvious that designating an AONB as well would be politically near impossible. We therefore pressed on with the Clwydian Range, a draft boundary having already been defined.

At that time the boundary covered four district council areas as well as Clwyd County. All had to be consulted at successive stages in the designation process. As soon as the proposal became public, there were objections from farming bodies who mistakenly thought that designation would restrict agriculture. Inclusion of high-quality bottom farmland in the Vale of Clwyd was especially contentious. For that reason the western AONB boundary was partly redrawn to exclude some of that land. Other objectors feared that an AONB would attract more visitors with consequent problems like litter and car parking. In the event few of those fears have materialised. People have visited places like Moel Famau for many years, not least because the Range is so prominent in views from Deeside. It’s hills and beautiful countryside that draw visitors, not a national designation. At public meetings I tried to explain the benefits of an AONB, stressing landscape conservation and countryside management. It’s not easy to change innate suspicions. 

Under the National Parks and Access to the Countryside Act 1949, a designation order for a national park or an AONB was a function of the Commission, subject to confirmation by the Secretary of State for Wales. The Clwydian Range order was made in 1983 and confirmed by the Secretary of State in 1985. Confirmation was not taken for granted: in 1973 another Secretary of State refused to confirm the order to make the Cambrian Mountains a National Park. 

Following confirmation, a joint management committee was formed to produce a management plan and oversee subsequent action. After I left the Commission, and much to my surprise, the AONB was extended to include the Dee Valley – rightly so. I’m so pleased that the management arrangements are still in place, vindicating those years of my career. Even more pleasing is the current proposal to incorporate the AONB – with a very important southerly extension – to create a new National Park. I do hope it comes to pass.

Sut daeth Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE): Hanes Personol gan Alan Rugman

Cyfieithiad o eiriau Alan Rugman – Powys Ramblers

Ymunais â Swyddfa Comisiwn Cefn Gwlad Cymru yn y Drenewydd yn 1979, ar ôl gweithio fel cynllunydd gydag Adran yr Amgylchedd gynt ac awdurdodau lleol cyn hynny. Roeddwn i’n ffodus iawn o fod yn byw a gweithio ym mryniau gwyrdd canolbarth Cymru.

Un o’m hatgofion cynharaf yn y swydd yw rhywun yn rhoi dwy ffeil i mi ym mhrif swyddfa’r Comisiwn yn Cheltenham, un â label ‘Clwydian Range’ a’r llall â label ‘Berwyn’. Yn fuan wedyn, fe wnaeth y Cyngor Gwarchod Natur fel yr oedd ar y pryd (mae cyrff cyhoeddus yn mynd a dod) ddyrannu rhan fawr o’r Berwyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Cafwyd ymateb ffyrnig gan yr undebau ffermio, gan ei gwneud yn amlwg y byddai bron yn amhosibl yn wleidyddol dynodi AHNE hefyd. Felly, dyma fwrw ymlaen â Bryniau Clwyd, â ffin ddrafft eisoes wedi’i diffinio.

Bryd hynny, roedd y ffin yn cwmpasu pedair ardal Cyngor Dosbarth yn ogystal â Sir Clwyd. Roedd rhaid ymgynghori â phob un ar gamau dilynol yn y broses ddynodi. Pan glywodd y cyhoedd am y cynnig, cafwyd gwrthwynebiadau gan gyrff ffermio a oedd yn credu y byddai dynodiad yn cyfyngu ar amaethyddiaeth, rhywbeth nad oedd yn wir. Roedd cynnwys ffermdir ansawdd uchel yn Nyffryn Clwyd yn arbennig o ddadleuol. Felly, cafodd ffin orllewinol yr AHNE ei hail-lunio’n rhannol, er mwyn eithrio rhywfaint o’r tir hwnnw. Roedd gwrthwynebwyr eraill yn pryderu y byddai AHNE yn denu mwy o ymwelwyr a phroblemau yn sgil hynny, fel sbwriel a pharcio. Mewn gwirionedd, ychydig o’r pryderon hynny sydd wedi’u gwireddu. Mae pobl wedi bod yn ymweld â lleoedd fel Moel Famau ers sawl blwyddyn, yn enwedig oherwydd bod y Bryniau mor amlwg mewn golygfeydd o Lannau Dyfrdwy. Bryniau a chefn gwlad hardd sy’n denu ymwelwyr, nid dynodiad cenedlaethol. Mewn cyfarfodydd cyhoeddus, ceisiais egluro buddion AHNE, gan bwysleisio cadwraeth tirweddau a rheolaeth cefn gwlad. Dydi hi ddim yn hawdd newid amheuon greddfol.

Dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, roedd gorchymyn dynodi ar gyfer parc cenedlaethol neu AHNE yn swyddogaeth i’r Comisiwn, yn amodol ar gadarnhad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Gwnaed Gorchymyn Bryniau Clwyd yn 1983 ac fe’i cadarnhawyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn 1985. Nid oedd cadarnhad yn cael ei gymryd yn ganiataol: yn 1973, gwrthododd Ysgrifennydd Gwladol arall gadarnhau’r gorchymyn i wneud Mynyddoedd Cambria yn Barc Cenedlaethol.

Yn dilyn cadarnhad, ffurfiwyd cydbwyllgor rheoli i lunio cynllun rheoli a goruchwylio camau dilynol. Ar ôl i mi adael y Comisiwn, ac er syndod i mi, cafodd yr AHNE ei hymestyn i gynnwys Dyffryn Dyfrdwy – ac mae hynny’n briodol. Rydw i mor falch bod y trefniadau rheoli yn dal i fod ar waith, gan gyfiawnhau’r blynyddoedd hynny o fy ngyrfa. Beth sy’n fwy o bleser fyth yw’r cynnig presennol i gynnwys yr AHNE – gydag estyniad pwysig iawn i’r de – i greu Parc Cenedlaethol newydd. Rydw i’n mawr obeithio y caiff ei wireddu.