Written by Imogen Hammond
This July, here in the Clwydian Range and Dee Valley, we played host to Junior Rangers from 11 countries around Europe. These young volunteers (between the ages of 14-17) came to take part in the Europarc International Junior Ranger camp. It was fantastic to see young people from all over learn from each other, challenge themselves, get stuck in practical tasks in our beautiful National Landscape and most importantly, have fun!
We started the week with an introduction to the stunning Dee Valley. The staff at Bryntisilio Hall, our base for the week, led us on a scrambling adventure up the Eglwyseg escarpment, talking Geology, hunting for fossils and admiring the endemic Llangollen whitebeam. We also had a guided walk from Rhun, the Head Dee Valley ranger, introducing our visitors to flora and fauna of the area, and the work of the ranger team.
That evening, each group presented a poster on their home Protected Landscape, and shared foods from their countries, ranging from Czech honey and bread, Swedish salted licorice, Italian salami and cheese, Austrian wafers and sweets from Estonia which looked like (but didn’t taste like) aquarium gravel!
The next day, we visited the iconic hillfort of Caer Drwyen above Corwen. The Dee Valley ranger team, Sam, Ruth, Dwynwen and Morgan, led us on 2 maintenance tasks. We grabbed scythes, slashers, and rods and got to work bracken bashing. Bracken forms dense colonies, making it difficult to see, and potentially undermining, the features of the hillfort. But 35 keen Juniors rangers made short work of it!
We also had a go at dry stone walling, dismantling and rebuilding a section of wall, part of the ranger team’s ongoing project on Caer Drewyn. To cap it off, we had an expert tour from archaeologist Fiona Gale, who told us all about the history of the site and was very patient with many many enthusiastic questions.
The third day, we discussed Curlews in the National Landscape, and were joined by a printmaker and artist Rhi Moxon, who helped the Junior rangers make beautiful prints on bags to take home. Every language had a different name for the Curlew, and a different way of spelling out their evocative call.
Then, we joined the Parc Cenedlaethol Eryri Junior rangers at Beddgelert and on the lower slopes of Yr Wyddfa, brilliantly hosted by the ranger team in Eryri. Some classic Welsh weather moved in, but it was all smiles for litter picking and listening to storyteller Fiona Collins tell traditional tales from Wales.
It wouldn’t be a trip to the Clwydian Range and Dee Valley without taking in our biggest hill, Moel Famau. On Day 5, the Junior Rangers divided and conquered, tackling essential maintenance tasks such as digging out drainage culverts, cutting scrub, and litter picking. For a brief moment, the Jubilee tower was claimed for Denmark, but our CRDV Young Rangers managed to seize it back for Wales!
The final day, we took in some heritage of the Dee Valley, going on a steam train ride, including a guided tour of the engine house from Alex Elbourne of the Llangollen railway trust. To cap off the week, everyone donned wetsuits and the Bryntislio guides took us white water rafting down the Dee, going over the iconic weir at Horseshoe Falls and down to the Serpents tail.
It was an absolutely fantastic week, made possible by endless support from Europarc, and funding from Tirweddau Cymru. It was a brilliant experience for these youngsters from all over to come and learn about the work we do here, and learn from each other. I know I left the week inspired by all the stories from mentors and Junior Rangers from around Europe. Hopefully it will be a week all the Junior Rangers remember!
Gwersyll Ceidwaid Ifanc Rhyngwladol
Gan Imogen Hammond
Ym mis Gorffennaf, yma ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, fe fuom yn croesawu Ceidwaid Ifanc o 11 o wledydd o bob cwr o Ewrop. Fe ddaeth y gwirfoddolwyr ifanc hyn (a oedd rhwng 14 a 17 oed) i gymryd rhan yng ngwersyll Ceidwaid Ifanc Rhyngwladol Europarc. Roedd yn wych i weld pobl ifanc o ardal eang yn dysgu oddi wrth ei gilydd, yn herio’u hunain, yn mynd i’r afael â thasgau ymarferol yn ein Tirwedd Cenedlaethol ac yn bwysicach fyth yn cael hwyl!
Fe ddechreuwyd yr wythnos gyda chyflwyniad i ysblander Dyffryn Dyfrdwy. Fe arweiniodd y staff yn Neuadd Bryntisilio, ein lleoliad am yr wythnos, ni ar antur sgrialu i fyny creigiau Eglwyseg, gan sôn am Ddaeareg, chwilio am ffosiliau ac edmygu cerddinen wen frodorol Llangollen. Hefyd fe gawsom daith gerdded yn cael ei thywys gan Rhun, Prif Geidwad Dyffryn Dyfrdwy, gan gyflwyno ein hymwelwyr i blanhigion ac anifeiliaid yr ardal a gwaith y ceidwaid.
Y noson honno fe gyflwynodd pob grŵp boster ar Dirwedd a Ddiogelir eu cartref gan rannu bwydydd o’u gwledydd, a oedd yn amrywio o fêl a bara Tsiecaidd, licoris hallt o Sweden, salami a chaws Eidalaidd, waffers o Awstria a melysion o Estonia a oedd yn edrych fel cerrig mân acwariwm (ond ddim yn blasu felly)!
Y diwrnod wedyn, fe aethom i ymweld â bryngaer eiconig Caer Drewyn uwchben Corwen. Fe arweiniodd tîm ceidwaid Dyffryn Dyfrdwy, Sam, Ruth, Dwynwen a Morgan, ni i gyflawni dwy dasg gynnal a chadw. Fe afaelom mewn pladuriau, rhwygwyr a ffyn a dechrau torri’r rhedyn. Mae rhedyn yn ffurfio clystyrau dwys sy’n ei wneud yn anodd i’w weld ac fe all danseilio nodweddion y fryngaer. Ond fe gwblhaodd 35 o geidwaid ifanc brwdfrydig y gwaith mewn cyfnod byr.
Hefyd aethom ati i godi waliau cerrig sychion, dymchwel ac ailgodi rhannau o’r wal, rhan o brosiect parhaus y ceidwaid yng Nghaer Drewyn. I orffen y cyfan cawsom daith arbenigol gan yr archeolegydd Fiona Gale a adroddodd hanes y safle i ni ac roedd yn amyneddgar iawn gyda nifer fawr o gwestiynau brwd.
Ar y trydydd diwrnod fe fuom yn trafod y Gylfinir yn y Tirwedd Cenedlaethol ac ymunodd y gwneuthurwr printiau a’r artist Rhi Moxon, a helpodd y ceidwaid ifanc i wneud printiau hyfryd ar fagiau i’w cludo adref. Roedd gan bob iaith enw gwahanol ar gyfer y Gylfinir, a ffordd wahanol o gyfleu eu galwad atgofus.
Yna fe wnaethom ymuno â cheidwaid ifanc Parc Cenedlaethol Eryri ym Meddgelert ac ar lethrau isel Yr Wyddfa roedd tîm y ceidwaid yn Eryri yn cynnal y daith yn wych. Roedd y tywydd yn nodweddiadol iawn o Gymru ond roedd pawb yn gwenu wrth godi sbwriel a gwrando ar y storïwr Fiona Collins yn adrodd straeon traddodiadol o Gymru.
Ni fyddai’n daith i Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy heb fwynhau ein bryn mwyaf, Moel Famau. Ar Ddiwrnod 5 fe aeth y Ceidwaid Ifanc i’r afael â thasgau cynnal a chadw hanfodol fel cloddio ceuffosydd draenio, torri prysgwydd a chasglu sbwriel. Am ennyd hawliwyd y Tŵr Jiwbilî ar gyfer Denmarc, ond llwyddodd Ceidwaid Ifanc Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i’w gipio’n ôl i Gymru!
Ar y diwrnod olaf fe gawsom fwynhau ychydig o dreftadaeth yn Nyffryn Dyfrdwy, mynd ar y trên stêm ac fe fu Alex Elbourne o ymddiriedolaeth reilffordd Llangollen yn ein tywys o amgylch y tŷ injan. I orffen yr wythnos fe wisgodd pawb eu siwtiau dŵr ac aeth tywyswyr Bryntisilio â ni i rafftio dŵr gwyn i lawr afon Dyfrdwy, gan fynd dros y gored eiconig yn Rhaeadr y Bedol ac i lawr i gynffon y sarff.
Roedd yn wythnos hollol wych, a wnaed yn bosibl gan gefnogaeth ddiddiwedd Europarc a chyllid gan Tirweddau Cymru. Roedd yn brofiad gwych i’r bobl ifanc hyn o bob cwr wrth iddynt ddod i ddysgu am y gwaith rydym yn ei wneud yma a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mi wn fy mod ar ddiwedd yr wythnos wedi fy ysbrydoli gan yr holl straeon gan y mentoriaid a’r Ceidwaid Ifanc o bob cwr o Ewrop. Gobeithio y bydd yn wythnos y bydd yr holl Geidwaid Ifanc yn ei chofio!