June 2025
John Roberts
Our National Landscape team is always looking for new ways to protect and enhance our precious landscape. One of its best known characteristics is its limestone geology which threads through the area from Eglwyseg above the Dee Valley right through to Prestatyn Hillside in our northern extreme. It’s this part of the NL which will benefit from an exciting lottery funded initiative – the Limestone Links project. Led by the NL’s Climate Change lead, Graham Berry, the project has secured a budget of £875,000 to improve biodiversity and ecological resilience on a number of important geologically linked sites. These include Prestatyn Hillside itself, Graig Fawr, Moel Hiraddug, Coed Bell and Y Gop. Several other smaller sites designated as SSSIs will also benefit.
In an update to the NL’s Partnership, Graham said that the team would be working closely with other agencies including the National Trust and the North Wales Wildlife Trust who both owned sites in the area. The project would focus on safeguarding calcareous grassland vital to successful habitat management and with an emphasis on both improving and extending existing provision. There will also be a close working relationship with INNS management – the need to control and eradicate harmful non native plants. Graham gave the Yellowhammer as an example of a species in local decline which would hopefully benefit from the project. He also hoped for the return of the Fulmar to its only inland nesting site in Wales! First on the agenda is to appoint a manager and project officer to run the initiative on a day to day basis. Recruitment is underway – we wish those appointed every success and look forward to further updates as things progress on this vital plan to safeguard such an important part of our National Landscape.
Cysylltiadau Calchfaen
John Roberts
Mae tîm Ein Tirwedd Genedlaethol bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o amddiffyn a gwella ein tirwedd werthfawr. Un o’i nodweddion mwyaf adnabyddus yw ei daeareg galchfaen sy’n treiddio trwy’r ardal o Eglwyseg uwch ben Dyffryn Dyfrdwy trwodd i Lechweddau Prestatyn yn ein pen mwyaf gogleddol. Y rhan hon o’r Dirwedd Genedlaethol fydd yn elwa o fenter gyffrous a ariennir gan y loteri – y prosiect Cysylltiadau Calchfaen. Dan arweiniad arweinydd Newid Hinsawdd Tirwedd Genedlaethol, Graham Berry, mae’r prosiect wedi sicrhau cyllideb o £875,000 i wella bioamrywiaeth a gwytnwch ecolegol ar nifer o safleoedd pwysig sydd wedi’u cysylltu’n ddaearegol. Mae’r rhain yn cynnwys Llechweddau Prestatyn, Graig Fawr, Moel Hiraddug, Coed Bell a’r Gop. Bydd nifer o safleoedd llai eraill sydd wedi’u dynodi’n safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig hefyd yn elwa.
Mewn diweddariad i’r Bartneriaeth Tirwedd Genedlaethol, dywedodd Graham y byddai’r tîm yn cydweithio’n agos ag asiantaethau eraill gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a oedd ill dau yn berchen ar safleoedd yn yr ardal. Byddai’r prosiect yn canolbwyntio ar ddiogelu glaswelltir calchaidd sy’n hanfodol er mwyn rheoli cynefinoedd yn llwyddiannus a gyda phwyslais ar wella ac ymestyn darpariaeth bresennol. Bydd perthynas waith agos hefyd gyda rheolaeth y Tîm Rhywogaethau Estron Goresgynnol – yr angen i reoli a chael gwared ar blanhigion niweidiol nad ydynt yn gynhenid. Rhoddodd Graham y Bras Melyn fel enghraifft o rywogaeth sy’n dirywio’n lleol a fyddai gobeithio’n elwa o’r prosiect hwn. Roedd hefyd yn gobeithio y byddai Drycin y Graig yn dychwelyd i’w unig safle nythu mewndirol yng Nghymru! Yn gyntaf ar y rhaglen mae penodi rheolwr a swyddog prosiect i redeg y fenter o ddydd i ddydd. Mae proses recriwtio ar droed – rydym yn dymuno pob llwyddiant i’r rheiny a benodir ac edrychwn ymlaen am y wybodaeth ddiweddaraf wrth i bethau symud ymlaen ar y cynllun hanfodol hwn i ddiogelu rhan mor bwysig o’n Tirwedd Genedlaethol