June 2025
As I’ve previously said, the best thing about editing this newsletter is the chance to better get to know the many and varied members of the National Landscape team, who bring such a broad set of backgrounds and skills to our table. I’d met Charlotte several times when visiting Loggerheads and now had the chance to find out more. Her principal role is to bring the benefits of the Nature for Health programme to those living in the central part of the area, working in close co-operation with colleagues in Rhyl and Llangollen. We met over coffee on a nice sunny morning in the garden at Loggerheads. This is what she had to tell me:-
Usual first question – tell me a little about how it all started
Well I’m local! I was brought up in Whitford and went to the village primary school before continuing my studies at Argoed High School. I’ve loved the countryside and animals from the very beginning and, after my GCSE’s, I was fortunate to be able to undertake a course in the management and welfare of animals at Coleg Cambria’s Northop campus. Horses, in particular, have always been a big part of my life, and the chance to become involved with them as part of the course was an added attraction. I also have a deep interest in reptiles.
What happened next?
It paved the ‘way on to a conservation degree course, including herpetology at Bangor University which I really enjoyed – and with the mountains of Eryri on my doorstep! In addition to really enjoying the course and meeting new people, the icing on the cake was a 6 month overseas placement in Auckland on the north island of New Zealand.
That must have been quite something!
What an opportunity! – to be able to develop my understanding of conservation and nature recovery issues on the other side of the world. Many of the underlying issues and problems are the same but the context is very different. I loved it over there, still have contacts and look forward to revisiting at some stage in the future.
This clearly demonstrated your ability to meet new challenges.
Yes, when I graduated I wasn’t sure what would happen but again a new and interesting direction emerged – this time as an analyst with a company specialising in identifying marine environmental issues. This mainly involved the interpretation of aerial surveys from a wide range of sites worldwide. It was excellent experience and I really enjoyed it.
How did you become involved with our national landscape?
I’m now living back in my home patch and was keen to find work locally in my chosen field. A temporary role with the Ranger team at Loggerheads became available and I was taken on. I hadn’t been on board long when the chance came to join the Nature for Health team. I wasn’t sure at first if I was suitable for the role but was encouraged to put my name forward. It was very much the right decision and I really enjoy the role.
Tell us a little more about it.
It’s all about giving people with health issues the chance to get involved with planned activities aimed specifically at improving both their physical and mental health and wellbeing. Our National Landscape has a really good record in this, with the range of activities geared towards the countryside and its special qualities. Bringing our members in close touch with the landscape and its natural products is a real winner, be it a relaxing walk or practical work like basket weaving with local materials. We have bases in Loggerheads, Ruthin, Corwen, Llangollen and Rhyl and would like to see the scheme extended, of course.
What are the chances of that happening?
It all depends on funding. We have a very good working relationship with local NHS colleagues and the benefits of the initiative are well understood and appreciated. Finding resources to maintain and develop the programme is a constant challenge though. My own role is time limited at the moment but I hope it will be possible to extend it.
We do understand that temporary contracts are often the case – where do you see your future developing.
Certainly in the short term I want to continue with Nature for Health and I see my future developing within the conservation world. There is growing emphasis on the need for more positive action regarding nature recovery and biodiversity and there will be opportunities I’m sure!
What about away from work?
I live in Carmel with my partner Adam. We met at Bangor and he works in a similar field. We love enjoying all the local countryside has to offer, especially walking and horse riding. I remain fascinated by reptiles and have my own family of snakes!
It was time to let Charlotte go – she had a meeting with Nature for Health colleagues waiting. My usual final question – What’s your favourite spot in our National Landscape?
That’s a hard one! I think I must go for the butterfly glades here on the Loggerheads limestone escarpment with their special invertebrates – but can you please include a mention for Pen y Cloddiau too?
No problem – one of my real favourites as well!
Footnote – A reminder that many of our excellent NL team are, of necessity, on short term contracts which inevitably leads to some personal uncertainty. The positive is that these roles facilitate the gaining of valuable and necessary experience and, as we know, so many become permanent members of the team or go on to great things elsewhere.
Cwrdd â’r Tîm – Charlotte Wheeler
Fel yr wyf wedi’i ddweud o’r blaen, y peth gorau am olygu’r cylchlythyr hwn yw’r cyfle i ddod i adnabod aelodau niferus ac amrywiol y tîm Tirwedd Genedlaethol yn well, sy’n dod â chyfres mor eang o gefndiroedd a sgiliau i’n bwrdd Roeddwn i wedi cwrdd â Charlotte sawl gwaith wrth ymweld â Loggerheads a nawr roeddwn yn cael cyfle i ddarganfod mwy. Ei phrif rôl yw dod â buddion y rhaglen Natur er budd Iechyd i’r rheiny sy’n byw yn rhan ganolog yr ardal, gan gydweithio’n agos â chydweithwyr yn y Rhyl a Llangollen. Fe wnaethom gwrdd am goffi ar fore heulog braf yn yr ardd yn Loggerheads. Dyma oedd ganddi i’w ddweud:-
Y cwestiwn cyntaf arferol – soniwch ychydig am sut y dechreuodd y cyfan
Wel, rydw i’n lleol! Cefais fy magu yn Chwitffordd ac fe es i ysgol gynradd y pentref cyn parhau â fy astudiaethau yn Ysgol Uwchradd Argoed. Rydw i wedi caru cefn gwlad ac anifeiliaid ers y cychwyn cyntaf ac, ar ôl gwneud TGAU, roeddwn yn ddigon ffodus i allu ymgymryd â chwrs rheoli a lles anifeiliaid yng Ngholeg Cambria ar gampws Llaneurgain. Mae ceffylau, yn arbennig, wastad wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd, ac roedd y cyfle i weithio gyda nhw fel rhan o fy nghwrs yn atyniad ychwanegol. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ymlusgiaid hefyd.
Beth ddigwyddodd nesaf?
Fe wnaeth hynny fy mharatoi ar gyfer cwrs gradd mewn cadwraeth, gan gynnwys herpetoleg ym Mhrifysgol Bangor a mwynheais hynny’n fawr – gyda mynyddoedd Eryri ar garreg fy nrws! Yn ogystal â mwynhau’r cwrs yn fawr a chwrdd â phobl newydd, yr eising ar y gacen oedd cael mynd ar leoliad tramor am 6 mis yn Auckland ar ynys ogleddol Seland Newydd.
Mae’n siŵr bod hynny’n dipyn o brofiad!
Am gyfle! – gallu datblygu fy nealltwriaeth o gadwraeth a materion adfer natur ar ochr arall y byd. Mae llawer o’r materion a’r problemau sylfaenol yr un fath ond mae’r cyd-destun yn wahanol iawn. Roeddwn i wrth fy modd yno, mae gen i gysylltiadau yno o hyd ac rwy’n edrych ymlaen at gael dychwelyd yno rywbryd yn y dyfodol.
Yn amlwg fe ddangosodd hyn eich gallu i wynebu heriau newydd.
Do, pan raddiais i doeddwn i ddim yn siŵr beth fyddai’n digwydd ond eto fy gododd cyfle newydd a diddorol – y tro hwn fel dadansoddwr gyda chwmni sy’n arbenigo mewn nodi materion amgylcheddol morol. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys yn bennaf dehongli arolygon o’r awyr o ystod eang o safleoedd ledled y byd. Roedd yn brofiad ardderchog ac fe fwynheais yn fawr.
Sut wnaethoch chi ddod yn rhan o gynllun ein tirwedd genedlaethol?
Rydw i bellach wedi dychwelyd adref i fyw ac roeddwn i’n awyddus i ddod o hyd i waith lleol yn fy maes dewisedig. Daeth swydd wag dros dro gyda’r tîm Ceidwaid yn Loggerheads a chefais fy mhenodi. Doeddwn i ddim wedi bod yn y swydd yn hir cyn i gyfle godi i ymuno â’r tîm Natur er budd Iechyd. Doeddwn i ddim yn siŵr ar y dechrau os oedd hon yn swydd addas i mi ond cefais fy annog i wneud cais amdani. Roedd yn bendant yn benderfyniad cywir i mi a mwynheais y swydd yn fawr.
Soniwch ychydig bach mwy amdani.
Mae’n ymwneud â rhoi cyfle i bobl â phroblemau iechyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi’u cynllunio gyda’r nod benodol o wella eu lles a’u hiechyd corfforol a meddyliol. Mae gan Ein Tirwedd Genedlaethol hanes da iawn yn hyn o beth, gydag ystod o weithgareddau sy’n gysylltiedig â chefn gwlad a’i rhinweddau arbennig. Mae dod â’n haelodau i gysylltiad agos â’r dirwedd a’i chynnyrch naturiol yn wych o beth, boed yn daith gerdded hamddenol neu waith ymarferol fel gwehyddu basgedi gyda deunyddiau lleol. Mae gennym safleoedd yn Loggerheads, Rhuthun, Corwen, Llangollen a’r Rhyl a hoffem weld y cynllun yn cael ei ymestyn wrth gwrs.
Beth yw’r siawns y bydd hynny’n digwydd?
Mae’r cyfan yn dibynnu ar gyllid. Mae gennym berthynas waith dda gyda chydweithwyr y GIG lleol ac mae buddion y fenter yn cael eu deall a’u gwerthfawrogi’n dda. Fodd bynnag, mae dod o hyd i adnoddau i gynnal a datblygu’r rhaglen yn her barhaus. Mae cyfyngiad amser ar fy swydd i ar hyn o bryd ond rwy’n gobeithio y bydd modd ei hymestyn.
Rydym yn deall mai contractau dros dro yw’r achos yn aml – ble ydych chi’n gweld eich dyfodol yn datblygu?
Yn bendant yn y tymor byr rydw i eisiau parhau gyda Natur er budd Iechyd ac rwy’n gweld fy nyfodol yn datblygu o fewn y byd cadwraeth. Mae pwyslais cynyddol ar yr angen am fwy o gamau gweithredu cadarnhaol o ran adfer natur a bioamrywiaeth a bydd cyfleoedd yn codi rwy’n siŵr!
Beth am y tu allan i’r gwaith?
Rydw i’n byw yng Ngharmel gyda fy mhartner Adam. Fe gwrddon ni ym Mangor ac mae o’n gweithio mewn maes tebyg i mi. Rydym wrth ein boddau yn mwynhau’r hyn sydd gan gefn gwlad lleol i’w gynnig, yn enwedig cerdded a marchogaeth. Rydw i’n dal i gael fy syfrdanu gan ymlusgiaid ac mae gen i deulu fy hunan o nadroedd!
Roedd yn amser i ni adael i Charlotte fynd – roedd ganddi gyfarfod gyda’i chydweithwyr Natur er budd Iechyd . Y cwestiwn olaf arferol – Beth yw’ch hoff le yn ein Tirwedd Genedlaethol?
Mae hwn yn un anodd! Rydw i’n meddwl y bydd yn rhaid i mi ddewis y llannerch gloÿnnod byw yma ar sgarp calchfaen Loggerheads gyda’u hinfertebratau arbennig – ond wnewch chi hefyd grybwyll Pen y Cloddiau os gwelwch yn dda?
Dim problem – mae’n un o fy ffefrynnau innau hefyd!
Troednodyn – I’ch atgoffa mae nifer o dîm ardderchog Tirwedd Genedlaethol, o reidrwydd, ar gontractau tymor byr sydd yn anochel yn arwain at rywfaint o ansicrwydd personol. Y peth cadarnhaol yw bod deiliaid y swyddi hyn yn ennill profiad gwerthfawr ac angenrheidiol, ac fel y gwyddom, mae cymaint ohonynt yn dod yn aelodau parhaol o’r tîm neu’n mynd ymlaen i wneud pethau da mewn lleoedd eraill.