Written by David Smith
Moel Morfydd is a conspicuous summit standing at the south-western extremity of Llantysilio Mountain. From the parking area opposite the Ponderosa, it is a three-mile walk on the track over Moel Gamelin and Moel y Gaer, a real switchback route. It is far less gruelling to approach it from the single-track road connecting Bryneglwys with Glyndyfrdwy. There are three paths/tracks on the OS map leading to Morfydd but I recommend the one starting at SJ149451 because there is a small parking area just beyond it if heading south.
Paula and I chose Morfydd for our Boxing Day walk, guessing that Moel Famau would have a last boat out of Dunkirk vibe. Sure enough, we only encountered three other people. The other reason is that it has a trig point to add to our list (see Paula’s piece in Views No 34 May 2024).
The track to the summit is a bit chewed up by 4 x 4s and trail bikes but is only boggy in a few places. The gradient is gentle and only gets steeper near the end. Although the top is a modest 550m/1803ft, it has the feel of a real mountain, with the ground to the south and east plunging steeply towards the Dee Valley. The views on a clear day are stunning. Arenig Fawr, Cader Idris, and an end-on angle of the Berwyn ridge are prominent. Further away, Yr Wyddfa and the other sentinels of Eryri line the western horizon.
On our visit, south-east beyond Dinas Bran the Wrekin poked its hump above a distant fog layer, as did less distinctive high ground, probably the Breidden Hills near Welshpool. The weather was brilliant, with a gradual flow of warmer air from the south forming a shallow creeping fog along cold ground down in the valleys. The actual creation of advection fog was fascinating to watch.
Moel, of course, means ‘bare hill’, but the origins of Morfydd are obscure. In Welsh legend, Morfydd or Morfudd was the twin sister of Sir Owain, one of King Arthur’s knights. Anything else is pure conjecture. Paula and I consider this little mountain a neglected jewel in its shapeliness, solitude and striking views.
Moel Morfydd
Wedi’i ysgrifennu gan Dave Smith
Mae Moel Morfydd yn gopa gweladwy sydd wedi’i leoli i’r de-orllewin o Fynydd Llantysilio. O’r maes parcio gyferbyn â Ponderosa, mae’n daith tair milltir ar drac dros Foel Gamelin a Moel y Gaer, ac yn llwybr igam-ogam. Mae’n llawer haws ei ddringo o’r ffordd un trac sy’n cysylltu Bryneglwys a Glyndyfrdwy. Mae tri llwybr ar y map OS yn arwain at Morfydd, ond rwy’n argymell y llwybr sy’n dechrau yn SJ149451 gan fod ardal barcio tu hwnt wrth fynd i gyfeiriad y de.
Fe ddewisais i a Paula Moel Morfydd ar gyfer ein taith ar Ddydd San Steffan, gan dybio y byddai Moel Famau dan ei sang. Ac yn wir, dim ond tri pherson arall a welsom ar y daith. Y rheswm arall oedd bod piler triongli yno i ychwanegu at ein rhestr (gweler ddarn gan Paula yn Rhifyn 24 Mai 2024).
Mae’r trac i’r copa wedi’i erydu ychydig gan gerbydau 4×4 a beiciau, ond ychydig iawn o lefydd sy’n gorsiog. Mae’r graddiant yn hamddenol ac ond yn mynd yn fwy serth tua’r diwedd. Er bod y copa ond yn 550m/1803 troedfedd, mae’n teimlo fel mynydd go iawn, gyda’r tir i’r dde a’r dwyrain yn plymio’n serth tuag at Ddyffryn Dyfrdwy. Mae’r golygfeydd ar ddiwrnod clir yn odidog. Mae Arenig Fawr, Cader Idris, ac mae ongl crib y Berwyn yn amlwg iawn. Ymhellach i ffwrdd, mae’r Wyddfa a mynyddoedd eraill Eryri i’w gweld ar y gorwel gorllewinol.
Ar ein hymweliad, i’r de-ddwyrain tu hwnt i Ddinas Brân roedd posib gweld y Wrekin uwchben haen o niwl, yn ogystal â Bryniau Breiddin ger y Trallwng. Roedd y tywydd yn wych, gyda llif graddol o aer cynnes o’r de yn ffurfio niwl isel ar hyd y tir oer i lawr yn y dyffryn. Roedd cread y niwl llorfudol yn rhyfeddol i’w wylio.
Mae tarddiad yr enw Morfydd yn aneglur. Yn y chwedl Gymreig, Morfydd neu Morfudd yw gefell Syr Owain, un o farchogion y Brenin Arthur. Mae unrhyw beth arall yn ddamcaniaeth pur. Rydw i a Paula yn ystyried y mynydd bach hwn yn drysor sydd wedi’i esgeuluso, yn sgil ei siâp, tawelwch a golygfeydd godidog.