Written by Mike Skuse
When the National Park debate started last year, we all thought that it would be plain sailing, and that the Welsh Government’s Manifesto promise of a new National Park(NP) based on the CRDV National Landscape (NL) would be delivered without too much trouble. (For those not following this saga closely, AONBs are now known UK-wide as National Landscapes).
We were wrong. We had not counted on the reaction of our County Councils, nor of the farming NGOs, especially that of the National Farmers Union, who have told NRW that designation will stifle farming enterprise and hinder efficient land based businesses in many ways. They stopped short of using the word “object” in a seven page letter, saying that they wanted to be informed about every new development.
At the time of writing, mid January, two of the four County Councils, Powys and Flintshire, have objected to designation, mostly on the grounds of cost at a difficult time.
And the other farming/landowning groups have all had meetings and have doubts, mainly about planning restrictions and increased visitor pressure leading to all manner of problems on farms.
Finally, I suspect that a significant percentage of the residents in the NL and in the proposed new NP boundaries are saying “Why bother? Leave it alone. It’s perfectly OK as it is.”
…….So we need to restate CPRW’s position, and to list all the positive reasons why a NP trumps a NL, and get this message out to everybody involved. I remind members of this Branch that we have firmly supported designation from the very start. So this is what we think………
- The Local Economy. No matter how strapped for cash our Senedd is, the funding for a NP is much much higher than that for a NL. In the 2024/2025 financial year, the three NPs in Wales received about £16.88 million; and the five NLs received only £1.9 million. This big difference recognises the importance to the Welsh economy by way of visitors and reflects the importance of these areas for really professional and well-funded wildlife regeneration. NPs can afford much greater employment of expert wardens in the field. Example: perhaps we might even save the curlew, with more money and (even) more expertise?
- The Environment. The number one priority for this new NP must be to improve the whole place for wildlife, and to change forestry and farming practices to enable this. We need broadleaf trees, clean waters, and more peat in the uplands. Example: maybe we can save the pine martens at Vyrnwy? There is so much to do everywhere. And of course the environment is important for people too. ‘Quiet recreation’ is one of the two requirements of a NP according to the old enabling Act of Parliament in 1949. What is wrong with encouraging those less fortunate than us to visit us from smokey cities? It is our civic duty to do so.
- Farming. NPs have much better access to a number of funds not available outside their boundaries, and helping to secure them will be offered by the NP Authority. I will come to the way an NP is managed next. It is clearly in the interests of management to run a successful NP, and to attract public and private funds to it. Such funds will be channelled into agriculture and forestry before anything else. Example: more and better dry stone walling; more native deciduous woodlands; better footpath management.
It is worth mentioning here that NPs enjoy prestige far beyond their boundaries. Every country in the world calls its most protected places NPs. We here would be on a par with Yellowstone, Kruger, Serengeti, Masai Mara, and Kosciuszko. What’s not to like? We would benefit by sharing ideas, not least with other farmers all over the world – to see how they fare inside their ultimate protected places.
4. Governance. Who will actually run the NP will be discussed endlessly until decision time! It might be useful at this early stage to look at the governance structure of Eryri NP (Snowdonia). This is run by an ‘Authority’ comprising 5 people appointed by the Welsh Government, 9 by Cyngor Gwynedd, and 4 by Conwy CBC. It seems that they are all chosen because they have a special knowledge of the area and that the Planning Committee is all of them! This is unlike the Planning Committees of the 4 County Councils sharing our current NL, most of whom represent wards in urban areas of the four counties, with no special knowledge, or I dare say interest, in rural matters.
These 18 people, all well informed and dedicated to the well-being of the mountains and valleys of this internationally famous place, are supported by a large staff, from Chief Executive Officer (some of us will remember Jonathan Cawley from his time at DCC) and Corporate Services Officer, with 12 Heads of Departments, eg Finance, Property, Conservation, Personnel. And below them in the pecking order are scores of people repairing footpaths, planting trees, talking to farmers, helping visitors, and doing all the other things we expect when we visit.
5. I end by saying that we hope that this new National Park will be different from the standard model.It must be firmly based on current requirements for the restoration of nature, and it must encourage people living in our cities and towns to come here and breathe fresh countryside air!
I am obliged to Gareth Ludkin and his colleagues at the Campaign for National Parks, for help from their booklet ‘The Value of a New National Park in Wales’.
Mike Skuse.
Dim Cytundeb Eto
Cyfieithiad o erthygl gan Mike Skuse
Pan ddechreuodd y drafodaeth ar y parc cenedlaethol llynedd, roeddem ni i gyd yn credu y byddai pethau’n mynd yn esmwyth ac y byddai addewid Llywodraeth Cymru yn ei maniffesto o gael parc cenedlaethol newydd yn seiliedig ar Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cael ei gwireddu yn ddidrafferth. (I’r rheiny ohonoch chi sydd ddim yn dilyn y saga yma, mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol bellach yn cael eu galw’n ‘Tirweddau Cenedlaethol).
Ond roeddem ni’n anghywir. Doedden ni ddim wedi ystyried ymateb ein Cynghorau Sir na chyrff anllywodraethol ffermio, yn enwedig yr NFU sydd wedi dweud wrth Gyfoeth Naturiol Cymru y bydd y dynodiad yn mygu mentrau ffermio ac yn rhwystro busnesau tir effeithlon mewn sawl ffordd. Bu iddyn nhw ymatal rhag defnyddio’r gair “gwrthwynebu” mewn llythyr saith tudalen, gan ddweud bod arnyn nhw eisiau cael gwybod am bob datblygiad newydd.
Ar adeg ysgrifennu hwn, canol mis Ionawr, mae dau o’r pedwar Cyngor Sir (Powys a Sir y Fflint) wedi gwrthwynebu’r dynodiad, yn bennaf oherwydd y costau yn y sefyllfa sydd ohoni.
Ac mae’r grwpiau ffermio/perchnogion tir wedi cael cyfarfodydd ac yn bwrw amheuaeth ar y cynnig, yn bennaf o ran cyfyngiadau cynllunio a mwy o ymwelwyr yn achosi pob mathau o broblemau ar ffermydd.
Yn olaf, tybiaf y bydd canran fawr o breswylwyr y Tirwedd Cenedlaethol ac o fewn ffiniau’r parc cenedlaethol arfaethedig yn gofyn “Pam trafferthu? Gadewch i bethau fod. Mae’n iawn fel mae.”
… Felly mae arnom ni angen ailddatgan safbwynt Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig a rhestru’r holl resymau cadarnhaol pam bod Parc Cenedlaethol yn rhagori ar Dirwedd Cenedlaethol a rhannu’r neges hon gyda phawb. Hoffaf atgoffa aelodau o’r gangen hon ein bod ni wedi cefnogi’r dynodiad ers y cychwyn cyntaf. Felly dyma ein barn ni…
- Yr economi leol Dim ots pa mor dynn yn ariannol mae’r Senedd, mae’r cyllid ar gyfer Parc Cenedlaethol yn llawer uwch na’r cyllid ar gyfer Tirwedd Cenedlaethol. Ym mlwyddyn ariannol 2024/2025, cafodd y tri pharc yng Nghymru oddeutu £16.88 miliwn; ond dim ond £1.9 miliwn a gafodd y pum Tirwedd Cenedlaethol. Mae’r gwahaniaeth mawr yma yn cydnabod pwysigrwydd y parciau i economi Cymru o ran ymwelwyr ac yn adlewyrchu pwysigrwydd yr ardaloedd i adfywio bywyd gwyllt mewn ffordd broffesiynol ac wedi’i hariannu’n dda. Mae parciau cenedlaethol yn gallu fforddio cyflogi mwy o wardeniaid ag arbenigrwydd yn y maes. Enghraifft: efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu achub y gylfinir, gyda mwy o arian a (hyd yn oed) mwy o arbenigedd?
- Yr Amgylchedd Y flaenoriaeth uchaf i’r parc cenedlaethol newydd yma fydd gwella’r ardal gyfan ar gyfer bywyd gwyllt, a newid arferion coedwigaeth a ffermio er mwyn galluogi hynny. Mae arnom ni angen coed llydanddail, dyfroedd glân a mwy o fawn ar yr ucheldir. Enghraifft: efallai gallem achub y belaod coed yn Efyrnwy? Mae llawer o waith i’w wneud ymhobman. Ac wrth gwrs mae’r amgylchedd yn bwysig i bobl hefyd. Mae ‘hamdden dawel’ yn un o ddau o ofynion parc cenedlaethol yn ôl hen ddeddf alluogi 1949. Beth sydd o’i le ar annog y rheiny sy’n llai ffodus na ni i ymweld â ni o’r dinasoedd myglyd. Mae’n ddyletswydd ddinesig arnom ni i wneud hynny.
- Ffermio Mae gan barciau cenedlaethol well mynediad at nifer o gronfeydd nad ydynt ar gael y tu allan i’w ffiniau, a bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn helpu pobl i gael y cyllid hwnnw. Ddoi at y ffordd caiff parciau cenedlaethol eu rheoli nesaf. Mae’n amlwg er budd y tîm rheoli y byddai angen rhedeg y parc cenedlaethol yn llwyddiannus, a denu cyllid cyhoeddus a phreifat i wneud hynny. Bydd cyllid o’r fath yn cael ei sianelu i amaethyddiaeth a choedwigoedd cyn unrhyw beth arall. Enghraifft: gwella/mwy o waliau cerrig sychion; mwy o goetiroedd collddail brodorol; trefniadau rheoli llwybrau gwell.
Mae’n werth crybwyll bod bri’r parciau cenedlaethol yn estyn ymhell dros eu ffiniau. Mae pob gwlad yn y byd yn galw ei llefydd mwyaf gwarchodedig yn barciau cenedlaethol. Byddem wedyn yn gyfartal ag Yellowstone, Kruger, Serengeti, Masai Mara a Kosciuszko. Be’ well? Byddem yn gallu rhannu syniadau, yn cynnwys gyda ffermwyr eraill ar draws y byd a gweld sut maen nhw’n dod ymlaen o fewn eu hardaloedd gwarchodedig hwy.
4. Llywodraethu Bydd pwy fydd yn rhedeg y parc cenedlaethol yn destun trafodaeth tan ddiwrnod y penderfyniad! Efallai byddai’n ddefnyddiol ar y cam cynnar hwn i edrych ar strwythur llywodraethu Parc Cenedlaethol Eryri. Caiff y Parc ei redeg gan ‘Awdurdod’ sy’n cynnwys 5 unigolyn wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru, 9 gan Gyngor Gwynedd a 4 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’n debyg eu bod nhw wedi’u dewis oherwydd bod ganddynt wybodaeth arbennig am yr ardal, ac mae’r Pwyllgor Cynllunio yn cynnwys bob un! Mae hynny’n wahanol i bwyllgorau cynllunio’r 4 Cyngor Sir sy’n rhannu ein Tirwedd Cenedlaethol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynrychioli wardiau mewn ardaloedd trefol y pedair sir heb unrhyw wybodaeth arbennig nac, os caf fod mor hy a dweud, diddordeb mewn materion gwledig.
Mae’r 18 unigolyn yma, sydd oll yn hysbys iawn ac wedi ymroi i les y mynyddoedd a’r dyffrynnoedd yr ardal enwog hon, yn cael eu cefnogi gan nifer fawr o staff, o Brif Weithredwr (bydd rhai ohonom yn cofio Jonathan Cawley o’i amser yng Nghyngor Sir Ddinbych) a Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol, gyda 12 Pennaeth Adran e.e. Cyllid, Eiddo, Cadwraeth a Phersonél. Ac oddi tanynt hwy mae nifer o bobl yn trwsio llwybrau, yn plannu coed, siarad efo ffermwyr, helpu ymwelwyr ac yn gwneud pob peth arall sydd i’w ddisgwyl gan ymwelwyr.
5. Hoffaf ddiweddu drwy ddweud ein bod ni’n gobeithio y bydd y Parc Cenedlaethol newydd yn wahanol i’r model safonol. Mae’n rhaid iddo yn gyntaf fod yn seiliedig ar y gofynion presennol ar gyfer adfer natur, ac mae’n rhaid iddo annog pobl sy’n byw yn ein dinasoedd a’n trefi i ddod yma i anadlu awyr iach cefn gwlad!
Rwyf yn ddiolchgar iawn i Gareth Ludkin a’i gydweithwyr yn Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol am y cymorth a geir yn eu llyfryn ‘The Value of a New National Park in Wales’.
Mike Skuse