Pori ar Lechwedd Prestatyn
Mae Llechwedd Prestatyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd y glaswelltir calchaidd ac asid, y rhostir a’r prysg calchaidd, y coetir llydanddail, ac oherwydd y cor-rosyn lledlwyd, pumnalen y gwanwyn, y cerddin gwynion a thywodwlydd y gwanwyn – sydd oll o bwysigrwydd cenedlaethol. Fe welwch chi yma hefyd eithin pêr sy’n bwysig yn lleol.
Er bod da byw wedi pori yma lawer o flynyddoedd yn ôl, yn ystod y degawdau diwethaf mae Llechwedd Prestatyn wedi’i reoli gan beiriannau trwm a chyfarpar pŵer fel peiriannau torri gwrychoedd. Yn 2019 daeth yn rhan o brosiect pori Datrysiadau Tirlun. Ariannwyd y prosiect gan gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ac fe gafodd ei gynnal gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (y Tirwedd Cenedlaethol bellach), a’r nod oedd cyflwyno (neu ail-gyflwyno yn yr achos hwn) anifeiliaid pori i dros 40 o safleoedd yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Y cynllun gwreiddiol oedd ffensio’r llechwedd cyfan a gadael i ddefaid bori’r ardal gyfan. Fodd bynnag, yn yr ymgynghoriad cyhoeddus mynegwyd pryderon gan fod y safle yn un poblogaidd gyda cherddwyr cŵn, ac roedd llawer yn anhapus gyda’r angen i gadw eu cŵn ar dennyn o amgylch da byw. Gan ystyried yr adborth hwn, addaswyd ein dull drwy rannu’r llechwedd yn dair rhan, gan sicrhau y byddai’r defaid yn pori un rhan ar y tro. Roedd yr ateb hwn yn mynd i’r afael â’r pryderon ac yn cadw at y cynllun pori.
Dechreuwyd pori’r tir yn 2023, mewn un rhan yn unig. Gan nad oedd gan unrhyw aelod o’r Tîm Ceidwaid unrhyw brofiad o reoli system bori ar y safle, cymerwyd dull gofalus iawn. Ar ôl tair blynedd yn pori’r rhan yma, rydym ni wedi cyrraedd pwynt lle’r ydym ni’n hapus gyda nifer y stoc a’r amser sydd ei angen i gyflawni ein hamcanion.
Mae gwaith yn cael ei wneud yn un rhan i wneud yn siŵr ei bod mewn cyflwr ffafriol i ddefaid ei bori, tra bod angen gwaith ffensio yn y drydedd a’r rhan olaf. Roedd y rhan olaf yn barod i’w phori ar ôl ein gwaith torri a chasglu (lle defnyddiwyd Robo-flail) ac felly yn absenoldeb ffens bu i ni benderfynu bugeilio’r ardal yn ofalus. Mae’r strategaeth hon wedi bod yn llwyddiannus iawn. Drwy fapio’r ardaloedd a oedd angen mwy o bori, roeddem yn gallu canolbwyntio ein hymdrechion a rheoli’r pori mewn ffordd fwy effeithlon ar draws y dirwedd.
Mae’r safle hwn yn enghraifft bwysig o adfer natur yn llwyddiannus, ac rydym ni’n gyffro i gyd wrth feddwl am y dyfodol. Bydd hefyd yn helpu Cyngor Sir Ddinbych i gyflawni ei Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol, drwy ddiogelu a gwella bioamrywiaeth drwy reoli ac adfer tir.
Y nod yw symud oddi wrth waith llafur traddodiadol a mabwysiadu pori fel y prif offeryn rheoli.