Written by David Shiel, Rheolwr Ardal | Area Manager
A vital piece of life-saving kit has been reinstalled at a countryside car park after the original was stolen in 2023.
Run by the Clwydian Range Runners, a successful fundraiser has seen a replacement defibrillator installed at Coed Moel Famau toilet block after the original was believed to have been taken by thieves.
The Clwydian Runners funded the original equipment in 2018 and presented to countryside rangers looking after the location.
Following the alleged theft group member Gareth Jaggard started a GoFund Me fundraiser which raised £420 towards a new defibrillator. The Friends of the Clwydian Range and Dee Valley National Landscape donated £300, and the local council ward member also contributed to the fundraising.
The Clwydian Range and Dee Valley National Landscape donated the rest of the costs, with advice and support from the Welsh Ambulance service.
Installation of the defibrillator has now taken place, and the equipment is ready to provide life-saving support if needed.
Councillor Alan James, Cabinet Lead Member for Local Development and Planning, said: “We are really grateful to the Clwydian Runners for spearheading this drive to get this vital replacement life saving equipment at Coed Moel Famau toilet block and would like to thank everyone else who contributed to making sure a defibrillator was back at this location.”
Gosod offer achub bywyd mewn maes parcio yng nghefn gwlad
Wedi’i ysgrifennu gan David Shiel Rheolwr Ardal | Area Manager
Mae offer achub bywyd hanfodol wedi cael ei ailosod mewn maes parcio yng nghefn gwlad ar ôl i rywun ddwyn y gwreiddiol yn 2023.
Diolch i Redwyr Bryniau Dyffryn Clwyd mae arian wedi cael ei godi i brynu a gosod diffibriliwr newydd ym mloc toiledau Coed Moel Famau ar ôl i ladron ddwyn yr un gwreiddiol.
Cafodd yr offer gwreiddiol ei ariannu gan Redwyr Bryniau Dyffryn Clwyd yn 2018 a’i gyflwyno i’r ceidwaid cefn gwlad a oedd yn gofalu am y lleoliad.
Ar ôl y lladrad honedig fe gychwynnodd aelod o’r grŵp gronfa ar GoFund Me wnaeth godi £420 tuag at ddiffibriliwr newydd. Cyfrannodd Gyfeillion Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy £300 ac aelod ward y cyngor lleol at y gronfa.
Cyfrannodd Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy weddill y costau gyda chyngor a chefnogaeth gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Erbyn hyn mae’r diffibriliwr wedi cael ei osod ac mae’r offer yn barod i ddarparu cefnogaeth i achub bywyd os oes angen.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio’r Cabinet: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Redwyr Bryniau Dyffryn Clwyd ar arwain yr ymgyrch i gael yr offer achub bywyd hanfodol hwn ym mloc toiledau Coed Moel Famau a hoffwn ddiolch i bawb arall wnaeth gyfrannu at wneud yn siŵr bod yna ddiffibrilwr yn ôl yn y lleoliad hwn.”