The Laundry Retreat and Garden

The Laundry Retreat and Garden

 

Cafodd criw brwdfrydig o Ffrindiau brynhawn bendigedig yn y Laundry Retreat and Garden yn Llanrhaeadr. Cawsant groeso gan berchnogion y Retreat, Tom a Jenny, a chael clywed popeth am eu cynlluniau i adfywio’r golchdy a gerddi hen Blas Llanrhaeadr, un o dai mawreddog Dyffryn Clwyd ers talwm sydd bellach yn gartref i’r henoed. Mae Tom, Jenny a’u tri o feibion wedi gweddnewid y golchdy’n gartref hyfryd iddynt eu hunain. Gerllaw mae’r ardd furiog enfawr, llafur cariad Tom a Jenny!

Dechreuom ein taith drwy gael ein tywys i’r Retreat. Dau dŷ crwn dymunol yw’r Retreat, gyda llety eco sy’n cynnwys ystafell wely fawr, ystafell ymolchi a chegin mewn man tawel ar gyrion yr ardd, gyda golygfeydd godidog o Fryniau Clwyd. Bu’r tai crwn yn eithriadol o boblogaidd ac mae llawer o’r ymwelwyr wedi dod i aros ynddynt fwy nag unwaith. Wedyn, ar ôl paned o de a bisgedi, roedd hi’n bryd i Tom a Jenny sôn am eu cynlluniau ar gyfer yr ardd.

Pan symudodd y cwpl i mewn i’r golchdy yn 2008 roedd yr ardd wedi mynd â’i phen iddi ers blynyddoedd, ac aethant ati ar unwaith i greu’r hyn y maen nhw’n ei galw’n eu gardd gudd eu hunain. Roedd y ffaith bod yr ardd heb ei gorffen eto’n gwneud ein hymweliad yn fwy diddorol fyth – gardd gymharol gyfoes ond wedi’i gosod mewn man hanesyddol a hyfryd. Tynnodd Jenny ein sylw at rai o’r elfennau difyrraf, gan gynnwys coed leim wedi’u plethu a’r cylch o goed afalau bach surion wedi’u plethu. Plannwyd nifer o blanwydd yn ddiweddar a bwriedir creu gardd sych, sy’n adlewyrchu sut mae patrymau’r tywydd wedi newid, a thŷ gwydr yn erbyn un o’r muriau mawr.

Cawsom ddigonedd o amser cyn i’r ymweliad ddod i ben i grwydro o amgylch yr ardd ei hun a sgwrsio ag aelodau eraill y Ffrindiau. Diwrnod i’r brenin, felly – diolch o galon i Ymddiriedolwr y Ffrindiau, Julie, am wneud y trefniadau ac i Tom a Jenny am eu croeso a’u lletygarwch. Mae’n siŵr y byddwn yn awyddus i ymweld eto cyn bo hir, i weld sut mae eu cynlluniau’n dod ymlaen.