The new interpretative work at Plas Newydd

Written by Paul Evans, Rheolwr Plas Newydd | Plas Newydd Manager

The Ladies of Llangollen ‘the most celebrated virgins in Europe’ have been a source of curiosity and romantic symbolism since the Georgian Period. Plas Newydd, the house in which they lived together for over fifty years and developed into a form of elaborate ‘gothicisation’ has been open to the public since 1933 and has undergone numerous conservation and interpretation work, the last of which was carried out in mid 1990’s.

In 2021 an interpretation strategy was commissioned, to included input from LGBTQ artists from Manchester University. The strategy helped give credence to what staff already knew, that interpretation of the house, although of great depth and knowledge, is no longer as accessible to our wider and younger audiences. In addition, many significant collection objects are either displayed inappropriately or not at all, due to lack of safe space.

This project aims to improve the main exhibition room inside Plas Newydd and give the house the modern infrastructure it needs in order for us to allow greater access to the amazing story of the Ladies and their collections. Placing an appropriately sized display case in the centre of the room, will allow us to move a large tapestry into a safe and more suitable environment. Significant objects, such as an Aeolian Harp, will be able to be displayed along with other light sensitive material. A timeline can be included at the back in order to tell the story of the house and new changeable interpretation and interactives will bring the displays to life. This flexible and interchangeable exhibition space will allow new annual displays, in order for us to encourage repeat local, as well as new audience visits. In addition, installing Wi-Fi and better security to meet National Museum Standards will give us opportunity to loan items relating to ‘The Ladies’, in institutions such as the National Museum Wales, British Museum and Yale University USA.

Gwaith deongliadol newydd ym Mhlas Newydd

Cyfieithiad o eiriau Paul Evans, Rheolwr Plas Newydd

Mae Merched Llangollen, ‘y gwyryfon enwocaf yn Ewrop’, wedi bod yn destun chwilfrydedd a symbolaeth ramantaidd ers y cyfnod Sioraidd.  Mae Plas Newydd, y tŷ lle roeddent yn byw gyda’i gilydd am dros bum deg o flynyddoedd ac a ddatblygwyd i gynnwys nodweddion gothig, wedi bod ar agor i’r cyhoedd ers 1933 ac mae llawer o waith cadwraeth a dehongli wedi’i gyflawni yno, y diweddaraf yng nghanol y 1990au.

Yn 2021 comisiynwyd strategaeth ddehongli, i gynnwys mewnbwn gan artistiaid LHDTC o Brifysgol Manceinion.  Roedd y strategaeth yn gymorth i roi coel i’r hyn yr oedd y staff eisoes yn ei wybod, nad yw dehongliad y tŷ, er bod digonedd o wybodaeth a dyfnder, mor hygyrch i’n cynulleidfaoedd ehangach ac iau.  Hefyd, mae nifer o’r gwrthrychau o’r casgliadau naill ai’n cael eu harddangos yn amhriodol neu nad ydynt yn cael eu harddangos o gwbl, oherwydd diffyg gofod diogel.

Nod y prosiect yw gwella’r brif ystafell arddangos ym Mhlas Newydd a rhoi isadeiledd cyfoes i’r tŷ sy’n allweddol er mwyn i ni roi gwell mynediad at stori anhygoel y Merched a’u casgliadau.  Bydd gosod blwch arddangos o faint priodol yng nghanol yr ystafell, yn ein caniatáu i symud tapestri mawr i amgylchedd diogel ac addas.  Bydd modd arddangos gwrthrychau sylweddol, fel y Delyn Aeolaidd, gyda’r eitemau eraill sy’n sensitif i olau.  Gellir cynnwys llinell amser yn y cefn er mwyn adrodd hanes y tŷ a bydd y dehongliad newidiol newydd ac elfennau rhyngweithiol yn dod â’r arddangosfeydd yn fyw.  Bydd y gofod arddangos hyblyg a chyfnewidiol yn galluogi arddangosfeydd blynyddol newydd, er mwyn i ni annog pobl leol i ymweld fwy nag unwaith, ynghyd â denu cynulleidfaoedd newydd.  Hefyd, bydd gosod cysylltiad Wi-Fi a gwell diogelwch i ddiwallu Safonau Amgueddfeydd Cenedlaethol yn rhoi cyfle i ni fenthyca eitemau sy’n ymwneud â’r ‘Merched’, mewn sefydliadau megis Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Prydain a Phrifysgol Yale yn yr UDA.