Update from the Llyn Brenig Osprey Project

Written by Sarah Callon, NWWT Brenig Osprey Project Officer

September sees the migration of Ospreys from the UK and Europe as they travel up to 4000km to their wintering grounds in West Africa. We look back on a very successful season which began when true to form blue LJ2 (resident male) arrived on 31st March, this was the same day he returned in 2023. He wasted no time in displacing the gulls that had seemingly taken up residence on the nest. Then set to work at scraping away to create the egg cup and tidy up in preparation for his female LM6 to return. As the days went on and the arrival due date for blue LM6 past LJ2 waited patiently but she didn’t return. LM6 legacy is that she had 4 Juveniles 2 in 2022 blue X6 (Olwen) and blue KA9 (Gelert) and 2 in 2023 blue 7B5 (Dilys) and blue 7B6 (Mari).

We were fortunate and relieved that one of her juveniles from 2022 blue KA9 (Gelert) visited his home site on two occasions this season. Fingers crossed we will see him again and spot one of the females from 2023 next year.

When all hope for the return of LM6 was lost LJ2 then let blue 372 into his life. Blue 372 hatched in Scotland and was translocated at 6 weeks old with 7 other Ospreys to Poole Harbour, Dorset in 2020 as part of the Birds of Poole Harbour project. She fledged from that site and was spotted in 2023 in the Brenig area she even intruded on the main nest much to the displeasure of LM6 and LJ2 at the time.

Blue 372 returned to the area after a brief visit to Glaslyn and then decided to pair up with LJ2. Their journey didn’t come without drama, some might say more drama than any tv soap opera! When 372 laid her first egg she was a bit surprised and although Ospreys do control the incubation of eggs after a few hours of not being incubated and a very cold night LJ2 proceeded to do a lot of incubating as an experienced adult bird. When 372 laid her 2nd and 3rd egg she began to get the hang of things but unusually still went fishing leaving LJ2 on incubation duties. She would go fishing and land on a stump to eat her catch, she would then leave the rest for LJ2 and return to the nest to continue incubation, LJ2 would then go eat the remaining fish. During this time an intruding female 432, a 3 year old from a nest at Kielder Forest, came in to try and take the nest. A 5-hour battle ensued leaving the eggs uncovered for most of that time, however, the weather was a lot warmer by this time.

372 showed how fierce she was by protecting the nest and the eggs and won! When the chicks hatched dynamics changed and from that point LJ2 was carrying out all the fishing duties and 372 fed and protected the chicks. Unfortunately egg one didn’t hatch but we have two very healthy and well fed juveniles which were ringed at 5 weeks; we have one female 8B9 (Bethan) and a male 8B8 (Emrys).

They both fledged successfully and continued to return to the nest for food and both 372 and LJ2 were bringing lots of fish in to feed up the juveniles and themselves for the long journey ahead. All being well we will see out resident pair returning in the Spring, and we look forward to another successful season at LLyn Brenig – Brenig Osprey Project.

For more information on the Llyn Brenig Osprey project visit the websites, below: https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/ https://llynbrenig.com/llyn-brenig-osprey/

If you would like to volunteer for the Brenig Osprey Project, please contact Sarah Callon (NWWT Brenig Osprey Project Officer)

Tel: 01248351541/07949608486 Email: sarah.callon@northwaleswildlifetrust.org.uk

Photos: Andy Bell (NWWT Lead Volunteer) Trish Styles (NWWT Lead Volunteer) Sophia Evans (NWWT Lead Volunteer) Dŵr Cymru Welsh Water

 

Diweddariad am Brosiect Gweilch Llyn Brenig

Ym mis Medi, mae’r Gweilch yn mudo o Brydain i Ewrop wrth iddynt deithio hyd at 4000km i dreulio’r gaeaf yng Ngorllewin Affrica.

Rydym yn edrych yn ôl ar dymor llwyddiannus iawn a ddechreuodd pan gyrhaeddodd Blue LJ2 (gwryw preswyl) yn ôl ei arfer ar 31 Mawrth – yr un diwrnod ag y dychwelodd yn 2023. Ni wastraffodd unrhyw amser cyn gyrru’r gwylanod oedd i’w gweld wedi meddiannu’r nyth oddi yno. Yna, cychwynnodd ar y crafu er mwyn creu cwpan i’r wyau a thacluso cyn i’w gymar benywaidd, LM6 ddychwelyd. Wrth i’r diwrnodau fynd heibio a dyddiad cyrraedd disgwyliedig Blue LM6 basio, arhosodd LJ2 yn eiddgar amdani, ond ni ddychwelodd. Mae LM6 yn gadael 4 o adar ifanc – 2 o 2022, Blue X6 (Olwen) a Blue KA9 (Gelert) a 2 o 2023, Blue 7B5 (Dilys) a Blue 7B6 (Mari). Roeddem ni’n ffodus ac yn falch bod un o gywion 2022, Blue KA9 (Gelert) wedi ymweld â man ei eni ar ddau achlysur y tymor hwn. Croesi bysedd y gwelwn ni fo eto a gweld un o’r rhai benyw o 2023 y flwyddyn nesaf.

Pan oedd hi’n anochel na fyddai LM6 yn dychwelyd, fe wnaeth LJ2 adael Blue 372 i mewn i’w fywyd. Fe wnaeth Blue 372 ddeor yn yr Alban a chafodd ei symud yn 6 wythnos oed gyda 7 o weilch eraill i Harbwr Poole, Dorset yn 2020 fyn rhan o brosiect Birds of Poole Harbour. Ehedodd o’r safle hwnnw a chafodd ei gweld yn 2023 yn ardal Brenig ac fe wnaeth hyd yn oed darfu ar brif nyth LM6 ac LJ2 ar y pryd a chodi gwrychyn y ddau!

Dychwelodd Blue 372 i’r ardal ar ôl ymweld â Glaslyn am gyfnod byr cyn penderfynu paru ag LJ2. Doedd eu perthynas nhw ddim heb ddrama, a mwy o ddrama nag opera sebon ar y teledu ar brydiau! Pan wnaeth 372 ddodwy’r ŵy cyntaf, roedd wedi’i synnu braidd ac er bod Gweilch yn rheoli’r gwaith o ddeori wyau, ar ôl ychydig oriau o beidio ag eistedd arnynt ar noson oer iawn, aeth LJ2 ati i wneud llawer o’r gwaith deri fel aderyn sy’n oedolyn profiadol. Pan wnaeth 372 ddodwy ei hail a’i thrydydd ŵy, dechreuodd arfer â’r drefn ond eto, yn anarferol, fe aeth hi i bysgota gan adael LJ2 i ddeori eto. Byddai’n mynd i bysgota ac yn glanio ar fonyn i fwyta’i phryd, cyn gadael y gweddill i LJ2 a dychwelyd at y nyth i eistedd ar yr wyau. Byddai LJ2 wedyn yn mynd i fwyta gweddill y pysgodyn. Yn ystod hyn, daeth benyw arall, 432, un 3 oed o nyth yng Nghoedwig Kielder, i darfu a cheisio dwyn y nyth. Bu’r ddwy’n ymladd am 5 awr gan adael yr wyau’n noeth am y rhan fwyaf o’r amser, ond roedd hi’n llawer cynhesach erbyn hyn. Dangosodd 372 pa mor ffyrnig oedd hi drwy warchod y nyth a’r wyau a churo’r llall!

Pan ddeorodd y cywion, newidiodd y drefn yn llwyr ac o hynny ymlaen, LJ2 oedd yn gwneud yr holl waith pysgota a 372 yn bwydo ac yn gwarchod y cywion. Yn anffodus, ni ddeorodd yr ŵy cyntaf, ond mae gennym ddau aderyn ifanc, iach a’u boliau’n llawn wedi’u modrwyo’n 5 wythnos oed. Mae gennym un fenyw, 8B9 (Bethan) ac un gwryw, 8B8 (Emrys).

Ehedodd y ddau’n llwyddiannus a pharhau i ddychwelyd i’r nyth i nôl bwyd ac roedd 372 ac LJ2 yn dal llawer o bysgod i’w bwyta ac i fwydo’u cywion yn barod at y siwrnai hir oedd i ddod. Os byw ac iach, fe welwn ni ein pâr preswyl yn dychwelyd yn y gwanwyn, ac edrychwn ymlaen at dymor llwyddiannus arall yn Llyn Brenig – Prosiect Gweilch Brenig.

Am fwy o wybodaeth am brosiect Gweilch Llyn Brenig, ewch i’r gwefannau isod:

https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy  https://llynbrenig.com/cy/prosiect-y-gweilch-a-chamerar-nyth/

 

Os hoffech chi wirfoddoli ar gyfer Prosiect Gweilch Brenig,

cysylltwch â Sarah Callon (Swyddog Prosiect Gweilch Brenig YNGC)

Rhif ffôn: 01248351541/07949608486

E-bost: sarah.callon@northwaleswildlifetrust.org.uk

 

Lluniau: Andy Bell (Gwirfoddolwr Arweiniol YNGC), Trish Styles (Gwirfoddolwr Arweiniol YNGC), Sophia Evans (Gwirfoddolwr

Arweiniol YGNC), Dŵr Cymru