By John Roberts
In this edition we include NRW’s briefing note summarising progress so far with the ongoing evaluation of the case for a new National Park in Wales. NRW has now completed its early engagement process and notes that over 50 percent of those responding were in favour. The Campaign for National Parks and the Alliance of Welsh Designated Landscapes have also expressed full support for the proposal and we also include a link to their press release and full supporting statement in this issue. It’s important to stress that Friends Trustees have agreed to fully endorse that statement and will have chance to elaborate on this at the Charity’s AGM this autumn. We recognise that there are also many who are unsure or opposed to the designation. The formal consultation process in October/November will give all of us the chance to express our views and we encourage every Friends member to do so. As Trustees we will be highlighting the opportunity to do something really positive for biodiversity and nature recovery in our special – and hopefully extended – designated landscape whilst strongly maintaining the resilience and sustainability of local communities.
One of the fascinating aspects of consideration so far is the actual area which will go forward to the consultation stage. NRW is still working on which areas satisfy both the landscape and recreational criteria. However, some decisions have already been made and many will be disappointed that suggestions to include Hiraethog and the Llyn Brenig area will not be included. However, following feedback and based on evidence and further assessment, NRW has confirmed that in addition to the current AONB area, Halkyn Mountain, the Berwyn and landscapes within Powys, the area north of Hope Mountain, Clywedog Valley – Bersham, Park in the Past, Caer Estyn Hill Fort, Mynydd Mynyllod and the Dee Valley at Llandrillo as well as the parklands of Bryn Gwyn Hall and Rhug Estate will all be taken forward for detailed evaluation. NRW is continuing with its technical assessment programme and we now look forward to the full consultation phase – interesting times for all of us who love our special local landscape.
Written by John Roberts
Parc Cenedlaethol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru? – Adroddiad Cynnydd
Gan John Roberts
Yn y rhifyn hwn, rydym yn cynnwys nodyn briffio CNC ac yn crynhoi’r cynnydd hyd yma o ran y gwerthusiad parhaus o’r achos dros gael Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru. Mae CNC bellach wedi cwblhau ei broses ymgysylltu cynnar ac yn nodi bod dros 50% o’r ymatebwyr o blaid yr achos. Mae’r Ymgyrch ar gyfer Parciau Cenedlaethol a Chynghrair Tirluniau Dynodedig Cymru hefyd wedi mynegi eu cefnogaeth lawn i’r cynnig ac rydym wedi cynnwys dolen i’w datganiad i’r wasg a’u datganiad o gefnogaeth yn y rhifyn hwn. Mae’n bwysig pwysleisio fod Cyfeillion ac Ymddiriedolwyr wedi cytuno i gymeradwyo’r datganiad a bydd cyfle iddynt ymhelaethu ar hyn yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Elusen yn yr hydref. Rydym yn cydnabod bod nifer o bobl yn ansicr neu’n gwrthwynebu’r dynodiad. Bydd y broses ymgynghori ffurfiol ym mis Hydref/Tachwedd yn rhoi cyfle i ni gyd fynegi ein barn ac rydym yn annog ein Cyfeillion i wneud hynny hefyd. Fel Ymddiriedolwyr, byddwn yn tynnu sylw at y cyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol iawn er lles bioamrywiaeth ac adferiad natur yn ein tirwedd dynodedig arbennig – a, gyda lwc, ein tirwedd dynodedig estynedig – gan gynnal gwytnwch a chynaliadwyedd cymunedau lleol.
Un o’r agweddau diddorol i’w ystyried hyd yma yw’r ardal a fydd yn destun ymgynghoriad. Mae CNC yn parhau i ymchwilio i’r ardaloedd a fydd yn bodloni’r meini prawf o ran tirwedd a hamdden. Fodd bynnag, mae rhai penderfyniadau eisoes wedi cael eu gwneud a bydd nifer o bobl yn siomedig na fydd ardal Hiraethog a Llyn Brenig yn cael eu cynnwys. Fodd bynnag, yn dilyn adborth ac yn seiliedig ar dystiolaeth ac asesiadau pellach, mae CNC wedi cadarnhau, yn ogystal â’r AHNE presennol, bydd Mynydd Helygain, y Berwyn a thirweddau o fewn Powys, yr ardal i’r gogledd o Fynydd yr Hôb, Dyffryn Clywedog – Y Bers, Parc y Gorffennol, Bryngaer Caer Estyn, Mynydd Mynyllod a Dyffryn Dyfrdwy yn Llandrillo yn ogystal â pharcdiroedd Neuadd Bryn Gwyn ac Ystâd Rhug yn destun gwerthusiad manwl. Mae CNC yn parhau â’u rhaglen asesu dechnegol ac rydym yn edrych ymlaen at y cam ymgynghori llawn – mae’n gyfnod diddorol i bawb sy’n caru ein tirwedd leol arbennig.