What we do

Ein Gwaith

Plas Newydd

Prosiect Gerddi Plas Newydd:

Mae’r Cyfeillion yn noddi ardal o ardd ffurfiol Merched Llangollen ym Mhlas Newydd, Llangollen ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru.


View from Bryn Alyn

Prosiect Golygfannau:

Rydym wedi bod yn nodi golygfannau, yn amrywio o fannau anghysbell ynghanol y bryniau i fannau y gellwch fynd atynt mewn car. Os oes gennych chi hoff olygfannau yn yr ardal, cysylltwch â ni ar hello@friends.cymru. Cliciwch yma er mwyn gweld rhai o’r golygfannau a’r llwybrau.


AircraftSafleoedd lle mae Awyrennau wedi Disgyn i’r Ddaear:

Hoffai Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy godi ymwybyddiaeth ynghylch y safleoedd yma yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae sgwrs ac ymweliadau â’r safleoedd eisoes wedi’u trefnu, a’r gobaith yw y byddwn yn gallu coffáu rhai safleoedd damweiniau awyrennau yn y dyfodol.


LitterGofalu am y dirwedd:

Mae’r Cyfeillion wedi bod yn hel sbwriel ambell waith i helpu i gadw’r dirwedd yn arbennig. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw ardal lle mae angen hel ysbwriel, neu os hoffech ddod draw i’n helpu, cysylltwch â ni ar hello@friends.cymru